Rydym yn defnyddio Lumpfish i leihau pla llau môr wrth ffermio eog

Lumpfish

Yr Her

Bob blwyddyn mae angen 50 miliwn o ieir môr ar y diwydiant dyframaeth eogiaid yn Ewrop i fwyta parasit o'r enw 'llau pysgod' sy'n byw ar eogiaid. Mae llau pysgod yn barasitiaid allanol sy'n bwydo ar groen a mwcws eogiaid yr Iwerydd; gallant amharu ar dwf, iechyd a llesiant eogiaid, gan achosi colledion masnachol gwerth miliynau o bunnoedd i'r diwydiant yn fyd-eang. O ganlyniad i ymchwil gan y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR), mae modd meithrin ieir môr mewn amgylchedd a reolir. Mae ieir môr yn bysgod glanhau effeithlon sy'n bwyta'r parasitiaid hyn a gallant leihau'r angen i ddefnyddio cyffuriau yn erbyn llau môr 80%.

Y Dull

Mae'r CSAR wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr eogiaid ac ieir môr ers 2015 i fridio ieir môr mewn modd cynaliadwy. Deilliodd tair her o’n dadansoddiad bwlch: 1) bridio ieir môr yn artiffisial mewn amgylchedd a reolir; 2) dethol yr unigolion gorau i reoli llau môr a 3) gwella llesiant yr ieir môr. Ar y cyd â phartneriaid diwydiannol, sefydliadau lles a myfyrwyr ôl-raddedig, aethom i'r afael â phob un o'r tair her:

1. I ddatblygu bridio artiffisial, aethom ati i greu naw Gweithdrefn Weithredu Safonol gan ganolbwyntio ar sgrinio am glefydau, ffrwythloni artiffisial a hwsmonaeth. Mae'r rhain i gyd ar gael i'w lawrlwytho.

2. Dangoswyd bod gan rai poblogaethau brodorol o ieir môr briodweddau sy'n golygu eu bod yn fwy addas ar gyfer dyframaeth, ac na ddylid trawsleoli'r rhain pan fo risg y gallent ddianc.

3. Yn ogystal, buom yn cydweithio â'n noddwyr masnachol i ddatblygu'r Mynegai Sgôr Llesiant Gweithredol cyntaf ar gyfer ieir môr.

Ein Noddwyr.

Noddwyr Masnachol

Marine Harvest Scotland
The Scottish Salmon Company
The Cleaner Fish Company
Ocean Matters
Three Sixty Aquaculture

Sefydliadau Llesiant Rhaglenni'r UE ac UKRI

Effaith

Mae rheoli llau môr yn costio mwy na £700M y flwyddyn i ffermwyr eogiaid byd-eang ac mae'n arwain at ostyngiad o 17% mewn twf ac yn amharu ar lesiant. Mae defnyddio pysgod glanhau yn fwy cost-effeithiol ac yn llai niweidiol na defnyddio cemegau i gael gwared ar lau. Am y rhesymau hyn, mae nifer y pysgod glanhau a ddefnyddir gan y diwydiant ffermio eogiaid wedi cynyddu'n aruthrol ers 2008 a defnyddiwyd cyfanswm o 50 miliwn yn 2020 (+15 miliwn yn y DU yn unig), ac ieir môr yw dros 64% o'r rhain. Hwylusodd ymchwil CSAR y broses o ddethol llinellau 'elît' o ieir môr sydd wedi ymaddasu’n well i oroesi mewn amgylcheddau a reolir, gan greu swyddi, gwella safonau llesiant a chwarae rôl allweddol yn adfywiad economaidd diwydiant dyframaeth pysgod esgyll yng Nghymru.

Gwnaethom roi sylw i lesiant ieir môr drwy drefnu a chynnal y Symposiwm Cyntaf ar Lesiant mewn Dyframaeth - Dangosyddion Llesiant ar gyfer Rhywogaethau Newydd (14 Mai 2020) a ddilynwyd gan y gweithdy cyfnewid gwybodaeth am lesiant ieir môr. Rhoddwyd sylw i'r digwyddiad hwn gan The Fish Site a chafodd ei ganmol gan y diwydiant.

Yn 2020, buom yn trefnu'r Ail Symposiwm am Lesiant mewn Dyframaeth: Dangosyddion Llesiant Gweithredol ar gyfer Pysgod. Bu dros 260 o gyfranogwyr o bob cyfandir yn cymryd rhanyn y gweminar.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG goal 2
CLimate change UNSDG
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe