Trosolwg o'r Cwrs
Mae Sŵoleg wrth wraidd ein dealltwriaeth o'r byd naturiol. Ym Mhrifysgol Abertawe, bydd gennych gyfleoedd unigryw i ymroi i astudiaeth wyddonol anifeiliaid, o'u ffisioleg a'u hanatomeg, eu hecoleg a'u hymddygiad, i'w hesblygiad a'u cadwraeth. Byddwch yn meithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i chwarae rôl bwysig mewn llawer o sectorau, o fioleg y ddaear a'r môr i amaethyddiaeth, cadwraeth, meddygaeth a milfeddygaeth.
Mae ein rhaglen Sŵoleg israddedig wedi'i chynllunio i'ch galluogi i feithrin yr arbenigedd gwyddonol a'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n angenrheidiol i wneud cyfraniadau ystyrlon at ddatrys heriau amgylcheddol a chymdeithasol presennol. Mae ehangder y cwricwlwm yn sicrhau y byddwch yn datblygu dealltwriaeth helaeth o ecosystemau a'r egwyddorion biolegol sy'n llywio bywyd ar ein planed.
Mae'r rhaglen yn eich annog i ystyried effaith gweithgarwch dynol ar yr amgylchedd, ac i archwilio ymagweddau cynaliadwy at gadwraeth a rheoli adnoddau.
Drwy gyfuniad o waith maes, ymchwil labordy ac astudio damcaniaethol, byddwch chi'n datblygu'r sgiliau i ymchwilio i fywyd, gan ddatblygu'n gyfathrebwr effeithiol ac yn arweinydd cydweithredol, sy'n barod i fynd i'r afael â materion byd-eang megis colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau amgylcheddol eraill.
Mae ein gradd yn defnyddio ymagweddau moesegol, cynaliadwy ac arloesol i'ch paratoi’n llawn ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ystyrlon yn y byd academaidd, mewn cadwraeth, ymgynghori a datblygu polisïau.
Pam Sŵoleg yn Abertawe?
Mae enw da gan Sŵoleg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Cewch eich addysgu ar ein Campws Parc Singleton, wedi'i amgylchynu gan barcdir hyfryd â golygfeydd dros Fae Abertawe, lle caiff eich dysgu ei lywio gan academyddion ysbrydoledig a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Eich Profiad Sŵoleg
Mae gwaith maes yn rhan hanfodol o'r cwrs, gan eich galluogi i roi eich dysgu ar waith mewn lleoliadau byd go iawn, gan gynnwys yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd ar ein stepen drws. Mae gwaith labordy hefyd yn elfen hollbwysig, a gallwch ddatblygu eich sgiliau yn ein labordai arloesol.
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn sŵoleg, gan gynnwys amrywiaeth bywyd, bioleg gellol a microbaidd, ymddygiad anifeiliaid, ecoleg, esblygiad, geneteg a phwysigrwydd y cefnforoedd i fywyd ar y ddaear. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau craidd ysgrifennu gwyddonol, a chyflwyno a dadansoddi data.
Mae eich ail flwyddyn wedi'i threfnu i sicrhau y cewch gyfle i archwilio ystod o bynciau sŵolegol, mewn digon o fanylder i'ch galluogi i lwyddo yn eich blwyddyn olaf. Mae'r ail flwyddyn hefyd yn cynnwys cwrs maes preswyl mewn sŵoleg. Bydd y pynciau'n cynnwys ymddygiad anifeiliaid, ffisioleg anifeiliaid, esblygiad ac entomoleg a bydd cyfle i ymgymryd â dysgu arbenigol sy'n cynnwys pynciau o bathogenau a pharasitiaid i ficrobioleg a chadwraeth.
Yn y drydedd flwyddyn, mae’r addysgu'n cwmpasu ehangder cyfan sŵoleg, a bydd y themâu’n amrywio o fiotechnoleg foleciwlaidd i heriau byd-eang, a chyfleoedd i astudio bioleg organeb gyfan, esblygiad, ecoleg ac ymddygiad anifeiliaid.
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio blwyddyn dramor, gan gynnig profiad bywyd amhrisiadwy.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.
Mae'r Flwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymchwil uwch. Byddwch chi'n ymuno â’n grwpiau ymchwil, ar raglen gyfnewid gyda'n partneriaid yng Nghaerwysg neu Aberystwyth, neu gellir cysylltu'r flwyddyn â diwydiant, neu gallwch ddewis cyfuniad o'r opsiynau hyn.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen dewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch
ar ôl addysg bellach, neu os ydych chi'n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.