Rydym yn lleihau ymlediad clymog Japan

Rydym yn lleihau ymlediad clymog Japan

Yr Her

Mae clymog Japan yn rhywogaeth planhigyn goresgynnol yn y Deyrnas Unedig (ar ôl cael ei gyflwyno yn ystod y 19eg ganrif fel planhigyn addurnol).  Mae'n ymledu'n eang ac yn lleihau bioamrywiaeth frodorol, mae'n anodd ei reoli a gall dyfu mewn holltau mewn adeiladau, waliau a llwybrau gan arwain at ddifrod parhaus.

Mae'n bosibl y bydd benthycwyr morgeisiau yn y Deyrnas Unedig yn gofyn i brynwyr roi cynlluniau rheoli ar waith os caiff clymog Japan ei ddarganfod ar eu tir nhw neu ar dir cyfagos, sy'n gallu ychwanegu cost sylweddol.  Mae llawer o gwmnïau sy'n rheoli clymog Japan yn cynnig cael gwared â'r planhigyn ymhen cyfnod byr, ond mae'n anodd iawn cael gwared â'r planhigyn yn llwyr o dan y ddaear, a gall gymryd sawl blwyddyn.  

Y Dull

Cynhaliodd yr Athro Dan Eastwood a Dr Dan Jones dreial maes mwyaf y byd ynghylch clymog Japan, gan ddechrau yn 2012 a gweithio gyda'r cwmni a oedd yn ei noddi, sef Complete Weed Control Ltd. Dros 5 mlynedd, gwnaethant brofi 19 o'r prif ddulliau ffisegol, cemegol ac integredig o reoli clymog Siapan. Ar sail y treialon hyn, gwnaethant ddatblygu dull 4 cam, sy'n defnyddio chwynladdwyr glyffosad ar adegau penodol o'r flwyddyn.

Mae'r targedu tymhorol hyn â chwynladdwyr penodol sy'n gysylltiedig â bioleg y planhigyn yn cyflawni canlyniadau gwell â dosau chwynladdwyr is, sy'n well ar gyfer yr amgylchedd ac yn rhatach i berchennog y tir.

Mae'r treialon maes yn parhau o hyd, ac mae cynnyrch ac ymagweddau newydd er mwyn rheoli'r planhigyn yn cael eu profi ynghyd ag astudiaeth hirdymor newydd i adnewyddu tir a gafodd ei oresgyn ynghynt gan ddefnyddio cymysgedd o hadau planhigion brodorol er mwyn atal planhigion estron rhag goresgyn eto.

Knotweed before treatment
Knotweed after treatment

Yr Effaith

Mabwysiadwyd y model 4 cam newydd hwn gan gwmnïau masnachol sy'n rheoli clymog Japan, National Rail (yng Nghymru) a rheolwyr tir cyhoeddus (megis cynghorau sir).  Gan weithio gyda Michael Draper yn Adran y Gyfraith Prifysgol Abertawe, helpodd y tîm i newid dogfennaeth drawsgludo Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr yn 2020 mewn ymateb i'r ymchwil hon, gan gydnabod nad yw cynlluniau rheoli clymog Japan yn cael gwared â'r planhigyn. Mae hynny'n effeithio ar oddeutu 1,000,000 o drafodion trawsgludo y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr. 

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG Goal Life on Land
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe