Dr Farooq Shah

Rheolwr Prosiect, Biosciences

Cyfeiriad ebost

Ystafell Archifau - 013
Llawr Gwaelod
Adeilad Margam
Campws Singleton

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Rwy'n arbenigo mewn rheoli plâu pryfed sydd o bwys economaidd, gan gynnwys plâu cnydau a fectorau clefydau fel mosgitos a throgod. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar Ddulliau Integredig o Reoli Plâu, gan bwysleisio monitro plâu pryfed a datblygu bioblaladdwyr fel dewisiadau ecogyfeillgar yn lle plaladdwyr cemegol.

Rwyf wedi cyfrannu at brosiectau amlddisgyblaethol ar archwilio ffactorau sy'n dylanwadu ar wenwyndra ffyngau pathogenig i bryfed a chynnal asesiadau risg ar gyfer bioblaladdwyr ffwngaidd. Mae fy ymchwil yn rhychwantu astudiaethau sylfaenol a gwerthusiadau maes o effeithiolrwydd bioblaladdwyr.

Ar hyn o bryd, rwy'n arwain y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, sef cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Chyngor Dinas Abertawe. Nod y fenter hon, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, yw uno'r byd academaidd, byd diwydiant a'r gymuned at ddibenion twf busnes gwydn a dyfodol amgylcheddol cynaliadwy. Rydym yn canolbwyntio ar ehangu'r defnydd o gynhyrchion naturiol mewn amaethyddiaeth, cynhyrchion fferyllol a gweithgynhyrchu i hyrwyddo amgylchedd a chymuned iachach. Ein nod cyffredinol yw gwneud y mwyaf o fanteision adnoddau naturiol wrth leihau aflonyddwch amgylcheddol.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffyngau pathogenig i bryfed (Bioplaladdwyr)
  • Monitro Plâu Pryfed
  • Dulliau Integredig o Reoli Plâu
  • Diogelu Cnydau
  • Biosymbylyddion a Biogwrtaith
  • Strategaeth Fformiwleiddio a Chymhwyso
  • Cynhyrchion Naturiol
  • Treialon effeithiolrwydd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dulliau Integredig o Reoli Plâu

Bioreolaeth

Monitro Plâu Pryfed

Ymchwil