Anrhydedd newydd i’r Athro am ei gyfraniad i Covid

Mae academydd o Abertawe sydd ar flaen y gad o ran llywio ein dealltwriaeth o Covid-19 wedi cael cydnabyddiaeth bellach am ei waith ym maes gwyddor data. 

Etholwyd yr Athro Ronan Lyons, cyd-gyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaeth ac Athro Clinigol Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe, i gorff Ewropeaidd o fri, sef yr Academia Europaea.

Mae’r anrhydedd diweddaraf hwn gan yr Athro Lyons yn dilyn dod yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol a chael ei benodi’n OBE yn anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Ffocws ei waith yw defnyddio data a gesglir fel mater o drefn i ddeall yn well y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant a datblygu a gwerthuso ymyriadau sydd â’r nod o wella iechyd y cyhoedd. Mae wedi arwain rhai o’r astudiaethau mwyaf erioed yn y maes hwn ac wedi cyfrannu at ymchwil yn ymwneud â’r pandemig a’i ganlyniadau ar lefel Cymru, y DU ac Ewrop.

Dywedodd yr Athro Lyons ei fod wrth ei fodd o gael ei argymell i fod yn aelod o’r Academia Europaea fawreddog, sy’n ceisio annog y safonau uchaf posibl mewn ysgolheictod, ymchwil ac addysg, a hybu gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o fanteision dysgu.

Meddai: “Mae’r anrhydedd hwn yn gydnabyddiaeth o’r ymdrechion a rennir a gwaith caled y gwahanol dimau a phartneriaid rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y blynyddoedd. Dim yn fwy felly na dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ystod y pandemig.

“Trwy’r Prosiect Seilwaith Ymchwil Gwybodaeth Iechyd y Boblogaeth Ewropeaidd (PHIRI) rydym yn datblygu seilwaith ymchwil i gynhyrchu’r wybodaeth iechyd poblogaeth Covid-19 orau. Darparodd gweithgor amlddisgyblaethol Cymru’n Un dystiolaeth hollbwysig i ymateb Llywodraeth Cymru i drosglwyddiad cymunedol Covid a llywio datblygiad polisi ar draws y DU.

“Mae partneriaeth Cynghrair Data Rhyngwladol Covid-19 (ICODA) hefyd Health Data Research UK a’r Bills Gates Foundation ac eraill, yn cefnogi dull cydlynol byd-eang o fynd i’r afael â Covid a bygythiadau yn y dyfodol.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod hynod heriol i bawb ac rwy’n hynod o falch bod y llafur hwn wedi’i gydnabod a’i wobrwyo gan yr etholiad hwn.”

Mae’r Athro Lyons bellach yn ymuno â mwy na 5,000 o wyddonwyr ac ysgolheigion unigol blaenllaw eraill, sy’n ymdrin ag ystod eang o ddisgyblaethau academaidd sy’n cynnwys cyn enillwyr Gwobr Nobel, enillwyr Gwobr Turing ac enillwyr Medal Fields.

 

Rhannu'r stori