Y Brifysgol yn ymuno mewn dathliad arbennig o gefnogaeth Abertawe i fudwyr

Disgyblion o Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregŵyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn un o weithdai’r Brifysgol yn yr arddangosfa.

Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio gwybodaeth pobl ifanc am fudo mewn arddangosfa newydd unigryw yn y ddinas. 

Yn ogystal â dathlu'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi helpu i wneud Abertawe'n Ddinas Noddfa ers mwy na degawd, mae Cartref oddi Cartref yn Hyb Amlddiwylliannol Theatr y Grand yn Abertawe yn gobeithio llywio barn y cyhoedd am fudo.

Bydd ymwelwyr yn gallu cael rhagor o wybodaeth am y prosesau sy’n gysylltiedig â mudo, yn ogystal â rhannu straeon emosiynol mudwyr ac arddangos gwaith Dinas Noddfa Abertawe.

Mae'r Brifysgol yn un o 25 o bartneriaid rhyngwladol ym mhrosiect PERCEPTIONS, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r prosiect yn archwilio sut mae pobl sydd wedi ymfudo i Ewrop neu'r UE neu sy'n bwriadu gwneud hynny yn canfod y lleoedd hyn. Bydd y prosiect yn defnyddio'r arddangosfa fel cyfle i amlygu ei waith yn ogystal â chynnal gweithdai creadigol arbennig i blant rhwng 7 ac 11 oed.

Bydd y gweithdai hyn yn galluogi disgyblion i ryngweithio â themâu mudo sy'n deillio o brosiect PERCEPTIONS – ffydd, gobaith, colled, ansicrwydd a dryswch – ac i greu gwaith celf sy'n seiliedig ar y themâu hynny. Y gobaith yw y gellir rhannu'r rhain â phartneriaid yn yr UE wedyn.

Mae cyfraniad y Brifysgol at yr arddangosfa wedi cael ei arwain gan yr Athro Sergei Shubin, sef pennaeth tîm PERCEPTIONS Abertawe a chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo, a'i gydweithiwr Harrison Rees.

Mae'r digwyddiad yn rhan o gais Prifysgol Abertawe i fod yn Brifysgol Noddfa, a bydd llawer o'r ysgolion a fydd yn cymryd rhan hefyd yn ceisio bod yn Ysgolion Noddfa.

Meddai'r Athro Martin Stringer, y Dirprwy Is-Ganghellor, sy'n arwain cais Abertawe i fod yn Brifddinas Noddfa: “Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i feithrin diwylliant noddfa a chreu lle diogel a chroesawgar i bawb yn galw ar ei gwerthoedd sefydliadol a'i chenhadaeth ddinesig.

“Rydyn ni'n ymroddedig i weithio gyda'n cymuned eang, gan gynnwys ceiswyr noddfa, er mwyn cefnogi amrywiaeth, cynwysoldeb a chydraddoldeb er budd pobl eraill.”

Trefnwyd yr arddangosfa'n wreiddiol i ddathlu 10 mlynedd ers i Abertawe ddod yn Ddinas Noddfa, ond roedd yn rhaid iddi gael ei gohirio oherwydd Covid-19, ac mae Alan Thomas, cyd-gadeirydd Dinas Noddfa Abertawe, yn falch y gallai gael ei chynnal o'r diwedd.

Meddai: “Mae'n deilwng bod yr arddangosfa'n cyd-fynd â'r gefnogaeth enfawr sy'n cael ei dangos tuag at ffoaduriaid o Wcráin. Bu cynnydd mawr hefyd yn nifer y bobl sy'n ceisio lloches yma o fannau eraill yn y byd sy'n wynebu helbulon.

“Rydyn ni wedi gwybod erioed fod pobl yn gyffredinol yn croesawu pawb sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi oherwydd rhyfel ac erledigaeth, yn enwedig ar ôl cwrdd â nhw neu glywed ganddyn nhw'n uniongyrchol.

“Dyma'r rheswm pam mae elfen sylweddol o'n harddangosfa'n cynnwys straeon unigolion y gorfodwyd iddyn nhw adael eu cartref ac sydd bellach yn cyfrannu at Abertawe. Mae rhan arall yn ymwneud â'r ffyrdd y mae Abertawe wedi cynnig noddfa a chroeso Cymreig cynnes i bobl.”

Dywedodd y bydd yr arddangosfa bellach yn cael ei chynnal mewn lleoliadau eraill dros y flwyddyn nesaf, gan ysbrydoli cynifer o bobl â phosib i roi eu cydymdeimlad tuag at y rhai sy'n ffoi rhag trawma ar waith yn ymarferol.

Cynhelir yr arddangosfa tan 7 Ebrill ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10am i 7pm, ac ar ddydd Sadwrn o 11am i 3pm. Mae ar gau ar ddydd Sul.

Rhannu'r stori