Grŵp o bobl yn sefyll y tu allan i adeilad i gael llun

Daeth ymchwilwyr doethurol ac academyddion sy'n gysylltiedig â dwy ganolfan hyfforddiant doethurol mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ynghyd i rannu syniadau yng Nghynhadledd Deallusrwydd Artiffisial 2022. 

Roedd y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiad dau ddiwrnod am ddim yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe yn cynnwys ymchwilwyr doethurol, goruchwylwyr, partneriaid o gynghorau ymchwil a rhai masnachol sy'n gysylltiedig â Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC)Chanolfan Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) mewn Gwyddor Data Dwys.

Yn bresennol hefyd roedd ymchwilwyr sy'n gysylltiedig â phrifysgolion partner y canolfannau hyfforddiant doethurol, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerdydd.

Roedd siaradwyr o Amplyfi, Elzware, Mobileum, Oracle a Dŵr Cymru yn cynrychioli partneriaid allanol.

Rhoddodd y gynhadledd gyfle i'r cyfranogwyr i ddysgu am y gwaith diweddaraf ym maes deallusrwydd artiffisial dan dair thema allweddol:

  • Dyfodol deallusrwydd artiffisial;
  • Ffyrdd o roi deallusrwydd artiffisial ar waith; ac
  • Effaith deallusrwydd artiffisial.

Roedd y rhaglen yn cynnwys prynhawn wedi'i neilltuo i Gyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA), a gyflwynwyd gan arweinydd y prosiect, yr Athro Roger Whitaker o Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â sesiwn rwydweithio gan Sefydliad Alan Turing ar ehangu galluoedd deallusrwydd artiffisial a data.

Hefyd, croesawodd y gynhadledd bum ymwelydd o Seoul yn Ne Corea, fel rhan o raglen gyfnewid ar ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol mewn gwyddoniaeth sylfaenol, wedi'i hariannu gan Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Corea, Llysgenhadaeth Prydain yn Seoul, a Rhwydwaith Gwyddoniaeth ac Arloesi'r DU.

Fel rhan o raglen y canolfannau hyfforddiant doethurol, gwahoddwyd ymchwilwyr doethurol i gyd-drefnu'r gynhadledd, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau trefnu ac arwain.

Meddai Tonicha Crook, un o'r myfyrwyr a fu'n trefnu'r gynhadledd: "Roedd dysgu am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn cynhadledd fel hon yn gyfle gwych.

“Mae'n destun boddhad gwybod bod y cyfan wedi mynd rhagddo'n hwylus, ac rwy'n ddiolchgar am y profiad, a oedd yn cynnwys y cyfle i gadeirio sesiwn!”

Ychwanegodd Tabitha Lewis, un o'r trefnwyr eraill sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe : “Mae bod yn rhan o'r tîm trefnu wedi bod yn brofiad unigryw a chadarnhaol.

“Yn ogystal â fy helpu i ddatblygu fy sgiliau, roedd gweld y cynrychiolwyr yn mwynhau'r digwyddiad yn cadarnhau bod yr holl waith caled yn werth yr ymdrech.

“Rwy'n gobeithio y bydd llawer o gynadleddau AIMLAC eraill yn dilyn yr un gyntaf hon!”

Meddai'r Athro Gert Aarts, Cyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC: “Ar ôl gohirio'r gynhadledd wreiddiol yn 2020 o ganlyniad i'r pandemig, rwy'n hynod falch ein bod wedi llwyddo o'r diwedd i ddod â chynifer o bobl ynghyd wyneb yn wyneb, gan hwyluso trafodaethau ysgogol a chyfleoedd i rwydweithio.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ddatblygu mentrau newydd sydd wedi deillio o'r gynhadledd.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y gynhadledd, gan gynnwys y rhaglen swyddogol, drwy fynd i wefan AIMLAC.

Rhannu'r stori