Llun crynodeb o oleuadau gwyn ar gefndir du. Testun yn dweud Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022 Clarivate™.

Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael eu henwi yn Rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022 flynyddol, wedi ymaros mawr.

Mae Rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022, gan Clarivate, yn cydnabod ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi dangos dylanwad sylweddol yn eu maes neu feysydd dewisol drwy gyhoeddi llawer o bapurau a ddyfynnwyd yn helaeth dros y degawd diwethaf.

Mae’r ymchwilwyr sydd wedi'u cynnwys yn rhestr eleni fel a ganlyn:

Yr Athro Yogesh K. Dwivedi o Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Yr Athro Nidal Hilal o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Dr Shuai Li  o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Mae Rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022™ yn defnyddio dadansoddi meintiol ac ansoddol i nodi unigolion o bedwar ban byd sydd wedi dangos dylanwad sylweddol ac eang yn eu maes neu feysydd ymchwil dewisol.

Daw'r rhestr gychwynnol o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth o'r papurau a ddyfynnir yn helaeth yr ystyrir eu bod yn y 1% uchaf ar sail cyfeiriadau a blwyddyn gyhoeddi ym mynegai cyfeiriadau Web of Science™ dros y degawd diwethaf. Mae'r rhestr hefyd yn nodi'r sefydliadau a'r rhanbarthau ymchwil lle maent yn gweithio.

Mae'r fethodoleg sy'n pennu enwau blaenllaw ymchwilwyr dylanwadol yn tynnu ar ddata a gwaith dadansoddi a wneir gan arbenigwyr bibliofetrig a gwyddonwyr data yn Institute for Scientific Information™ yn Clarivate.

Dywedodd yr Athro Dwivedi: "Ni ellir cyflawni a chynnal cydnabyddiaeth o'i bath heb flynyddoedd lawer o waith caled, dyfalbarhad, dygnwch, cydweithio ffrwythlon yn rhyngwladol ac yn rhyngddisgyblaethol ac, uwch ben pob peth, gael cefnogaeth mewn amgylchedd ymchwil gwych sy'n hwyluso'r gwaith. Rwyf yn hynod ddiolchgar i'r Ysgol Reolaeth a'm holl gydweithwyr, myfyrwyr PhD a'r rhai sydd wedi gweithio gyda mi am gynnig amgylchedd ymchwil hynod werthfawr i mi dros yr 16 o flynyddoedd diwethaf.

Dywedodd yr Athro Hilal: "Mae'n fendith os byddwch chi'n dod o hyd i rywbeth rydych chi'n caru ei wneud mewn bywyd, ac mae'n wyrth os byddwch chi'n gweithio gyda thîm rhagorol. Mae'r clod yn mynd i'm tîm dros y blynyddoedd (myfyrwyr ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol) a'r bobl sydd wedi cydweithio â mi."

Dywedodd Dr Li: "Mae'n anrhydedd cael fy nghynnwys yn y restr fawr ei pharch hon o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth yn 2022. Mae cael cydnabyddiaeth yn y ffordd hon yn fy ysbrydoli i yn fy ngwaith ar y ffin rhwng Deallusrwydd Artiffisial a roboteg a diogelwch, ac ar warantu perfformiad Deallusrwydd Artiffisial arloesol i gynnig ffordd ddichonadwy o gydbwyso llwyddiant Deallusrwydd Artiffisial i roboteg."

Mae'r rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022 a chrynodeb gweithredol ar gael yma.

Rhannu'r stori