Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru

Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Gymru, ac Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau newydd, fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe wrth i Varsity Cymru ddychwelyd eleni. 

Bydd enwau’r ddau noddwr ar grysau rygbi'r dynion a'r menywod ar gyfer eu gemau yn erbyn Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon.

Bydd cynrychiolwyr y noddwyr hefyd yn cyflwyno crysau Varsity Cymru i garfannau'r dynion a'r menywod cyn y digwyddiad uchel ei fri, yn ogystal â hysbysebu ar sgriniau digidol ar y ddau gampws.

Mae Varsity Cymru'n ŵyl chwaraeon wythnos o hyd gyda myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau, gan gynnwys nofio, golff, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a chleddyfaeth ac eleni mae Prifysgol Abertawe'n falch o gynnal y gweithgareddau.

Cynhelir y rhan fwyaf o'r cystadlaethau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ddydd Mercher, 27 Ebrill, gan orffen â gêm rygbi'r dynion yn Stadiwm Swansea.com yn hwyrach y noson honno.

Bydd gemau'r dynion a'r menywod ar gael yn fyw ar-lein drwy S4C Clic yn ogystal ag ar dudalen Facebook Rygbi Pawb a sianel YouTube S4C. Cânt eu ffrydio'n fyw ar dudalen Facebook y Brifysgol hefyd.

Varsity Cymru yw'r digwyddiad chwaraeon mwyaf ond un i brifysgolion yn y DU, y tu ôl i'r cystadlu rhwng Rhydychen a Chaergrawnt, ac mae'n denu brwdfrydedd miloedd o fyfyrwyr o'r ddwy brifysgol.

Ar hyn o bryd, Caerdydd yw deiliad Tarian a Chwpan Varsity Cymru, yn dilyn buddugoliaethau'r brifysgol honno yn 2019, felly bydd Abertawe'n awyddus i ymgymryd â'r her eleni ar dir cartref.

Meddai Rachel Thomas, Pennaeth Datblygu ac Ymgysylltu Prifysgol Abertawe: “Mae llawer o bobl bob amser wedi edrych ymlaen yn eiddgar at ddigwyddiad Varsity Cymru yng nghalendr y Brifysgol, ond ar ôl bwlch o ddwy flynedd, bydd yr un hwn yn arbennig iawn i bawb sy'n cymryd rhan ac yn cefnogi eu timau.

“Rydyn ni'n falch o gael cefnogaeth Castell Howell ac Arena Abertawe i'n helpu i groesawu Varsity Cymru yn ôl mewn modd trawiadol a chreu achlysur gwirioneddol gofiadwy i bawb sy'n cymryd rhan.”

Bwydydd Castell Howell yw cyfanwerthwr bwyd annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, gan wasanaethu Cymru, siroedd y gororau a de-orllewin Lloegr. Meddai Brian Jones, ei sylfaenydd: “Rydyn ni'n ymrwymedig i gefnogi'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, gan helpu i hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc gael profiadau i ddatblygu llawer o'r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw i lwyddo.

“Mae Varsity Cymru'n ddigwyddiad mawr yng nghalendr myfyrwyr ledled de Cymru, ac rydyn ni'n dymuno pob lwc i'r holl athletwyr, cystadleuwyr a chefnogwyr ar y diwrnod pwysig hwn.”

Arena Abertawe yw lleoliad adloniant a digwyddiadau amlbwrpas diweddaraf de Cymru a chynhaliwyd seremonïau graddio'r Brifysgol yno'n gynharach y mis hwn.

Meddai Lisa Mart, cyfarwyddwr y lleoliad: “Fel un o brif noddwyr gemau rygbi Varsity Cymru 2022, rydyn ni wrth ein boddau i gael ein cysylltu â Phrifysgol Abertawe a'i gwerthoedd.

“Mae tîm Arena Abertawe'n ymrwymedig i gysylltu â phobl ein dinas ar yr adeg hon sy'n llawn newid gwych, a thrwy noddi'r diwrnod hynod gystadleuol a difyr hwn, rydyn ni'n gobeithio ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli pawb drwy'r cyfleoedd a'r profiadau y gall lleoliad adloniant byw a adeiladwyd at y diben eu cynnig.”

Rhannu'r stori