Nanoddeunyddiau: mae'r grŵp ymchwil yn canolbwyntio ar ddeunyddiau nanogrisialaidd, a ddefnyddir mewn celloedd solar, deuodau sy'n allyrru golau, a thransistorau cyflym

Nanoddeunyddiau: mae'r grŵp ymchwil yn canolbwyntio ar ddeunyddiau nanogrisialaidd, a ddefnyddir mewn celloedd solar, deuodau sy'n allyrru golau, a thransistorau cyflym

Mae arbenigwr mewn nanoddeunyddiau sy'n gweithio yn Abertawe a'r Almaen wedi sicrhau tua £250,000 o gyllid gan Sefydliad Humboldt i recriwtio gwyddonwyr gyrfa gynnar i ymuno â'i dîm ymchwil.

Penodwyd yr Athro Christian Klinke, sy'n gweithio ar y cyd ym Mhrifysgol Rostock yng ngogledd yr Almaen ac yn adran gemeg Prifysgol Abertawe, yn Sgowt Henriette Herz gan Sefydliad Humboldt, un o sefydliadau gwyddonol mwyaf blaenllaw'r byd.

Mae hyn yn ei alluogi i ddewis gwyddonwyr rhyngwladol dawnus – un y flwyddyn rhwng nawr a 2024 - a'u recriwtio ar gyfer ei grŵp ymchwil.

Bydd pob gwyddonydd yn derbyn cymrodoriaeth am ddwy flynedd gan Sefydliad Alexander von Humboldt.

Mae'r grŵp ymchwil yn canolbwyntio ar ddeunyddiau nanogrisialaidd, a ddefnyddir mewn celloedd solar, deuodau sy'n allyrru golau, a thransistorau cyflym. Mae'n archwilio eu rhinweddau, sydd yn aml yn cael eu pennu gan effeithiau mecanyddol cwantwm.

Mae'r grŵp eisoes yn derbyn arian ymchwil gan Sefydliad Humboldt, a bydd y penodiadau newydd yn cryfhau ei waith ymhellach.

Dywedodd yr Athro Christian Klinke:

"Bydd prosiectau ymchwil deiliaid yr ysgoloriaethau yn gwneud cyfraniad pwysig i brosiectau ein gweithgor rhyngddisgyblaethol.

Er eu bod yn gweithio yn yr Almaen, bydd deiliaid yr ysgoloriaethau yn cynnal ymchwil ar y cyd mewn cydweithrediad â grwpiau Abertawe ac efallai byddant yn addysgu myfyrwyr Abertawe."

Ychwanegodd yr Athro Owen Guy, Pennaeth Adran Gemeg Abertawe:

"Mae'r wobr fawreddog hon yn cryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng adran Gemeg Abertawe a Phrifysgol Rostock, gyda'r gweithgareddau ymchwil ac addysgu ar y cyd yn ychwanegu dimensiwn newydd at bortffolio ymchwil nanoddeunyddiau yn Abertawe."

Bob blwyddyn, mae Sefydliad Alexander von Humboldt yn galluogi mwy na 2,000 o ymchwilwyr o bob cwr o'r byd i ymgymryd ag arhosiad academaidd yn yr Almaen. Mae'r Sefydliad yn cynnal rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o dros 30,000 o Humboldtiaid, gan gynnwys yr Athro Klinke, mewn mwy na 140 o wledydd.

Cyflwynwyd rhaglen Henriette Herz gan y Sefydliad i gefnogi gwyddonwyr ifanc.

Bu Henriette Herz (1764-1847) yn awdur ac yn drefnydd salonau llenyddol a grwpiau trafod ar bynciau gwyddonol ac athronyddol. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys y brodyr von Humboldt.

Nod y rhaglen yw cefnogi ymchwilwyr benywaidd yn benodol, a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y penodiadau gan yr Athro Klinke.

Adran Gemeg - Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori