Grŵp o bobl yn sefyll y tu allan yn dal baner werdd.

Barnwyd unwaith eto fod tiroedd nodedig ac amrywiol dau gampws Prifysgol Abertawe ymysg y mannau gwyrdd gorau yng Nghymru. 

Mae'r Brifysgol yn dathlu ar ôl ennill Gwobr y Faner Werdd, sef marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o'r radd flaenaf sy'n cydnabod cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych.

Mae hefyd wedi cadw ei hachrediad fel Safle Treftadaeth Gwyrdd, ar ôl ei dderbyn am y tro cyntaf y llynedd. Mae'r wobr arbennig hon, a gefnogir gan Cadw, yn cydnabod safleoedd sydd o bwys hanesyddol ac sy'n bodloni meini prawf y Faner Werdd.

Talodd Paul Edwards, y rheolwr tiroedd, deyrnged i ymdrechion ei dimau ar ddau gampws y Brifysgol: “Rydym yn hynod falch o gadw Gwobr y Faner Werdd a statws y dyfarniad treftadaeth. Mae ein safleoedd yn cynnig heriau a buddion gwahanol iawn ac o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad y tîm y mae'r ddau ohonynt o'r safonau uchaf, er mwynhad ein myfyrwyr, ein staff a'n hymwelwyr.

"Mae gwybodaeth fanwl y tîm tiroedd yn sicrhau y bydd natur hanesyddol safle Singleton a lleoliad Campws y Bae ger y traeth yn parhau i gael eu cadw a'u gwella er cenedlaethau'r dyfodol.”

Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni'n hynod falch ein bod ni wedi cadw statws y Faner Werdd am bum mlynedd yn olynol. Mae hyn yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ein tîm tiroedd rhagorol wrth ddatblygu a rheoli ein mannau gwyrdd mewn modd cynaliadwy, gan werthfawrogi natur hanesyddol a gwyddonol y mannau hyn.

“Mae ein tiroedd a'n gerddi'n bwysig i les ein staff, ein myfyrwyr a'n cymunedau lleol ac maen nhw o werth mawr i'r Brifysgol.”

Eleni, mae'r Brifysgol ymysg 265 o fannau gwyrdd – sy'n amrywio o erddi a pharciau ffurfiol i randiroedd a mynwentydd eglwysi – ledled y wlad sydd wedi derbyn gwobr uchel ei bri'r Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus sy'n gyfrifol am raglen Gwobr y Faner Werdd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Ymwelodd beirniaid arbenigol â phob safle a gwnaethant ystyried meini prawf a oedd yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Mae ein mannau gwyrdd lleol yn gwneud cyfraniad allweddol wrth ein cysylltu â byd natur. Mae'r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg yng Nghymru'n gwneud gwaith gwych wrth ddarparu mannau o safon uchel i ymlacio ynddyn nhw a'u mwynhau.

Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus: “Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn i longyfarch staff a gwirfoddolwyr am wneud y gwaith caled sydd wedi cynnal safonau ardderchog yn y safleoedd hyn.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus


Rhannu'r stori