Ffotograff o'r Athro Lamie a Dr Inas bint Suleiman Al-Issa yn llofnodi'r cytundeb.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth â'r brifysgol fwyaf i fenywod yn y byd er mwyn darparu rhaglen ar y cyd a fydd yn grymuso ysgolheigion benywaidd ifanc o Saudi Arabia yn y sector ynni.

Mae'r rhaglen Meistr Gwyddoniaeth (MSc) mewn Arloesedd Ynni yn gydweithrediad rhwng y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol y Dywysoges Nourah bint Abdulrahman (PNU).

Mae'r radd yn cyd-fynd â Saudi Vision 2030 – sef fframwaith strategol i greu cymdeithas fywiog, economi ffyniannus a chenedl uchelgeisiol – a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau a fydd yn galluogi myfyrwyr i gyfrannu at arloesi, datblygu a chynnal ynni glân.

Yn hollbwysig, bydd yn annog menywod i rannu eu safbwyntiau amrywiol a'u syniadau arloesol drwy ymgymryd â rolau fel arweinwyr, gan chwalu rhagfarnau ar sail rhyw yn y sector ynni.

Bydd gweithgarwch addysgu cyfunol yn yr ystafell ddosbarth, o bell ac ar y safle yn PNU. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle unigryw i gwblhau prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, gyda phartneriaid diwydiannol neu gyflogwyr.

Llofnododd yr Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ochr yn ochr â Dr Inas bint Suleiman Al-Issa, Cyfarwyddwr Prifysgol y Dywysoges Nourah bint Abdulrahman, yn ystod ymweliad diweddar â Saudi Arabia fel rhan o ddirprwyaeth uchel ei phroffil.

Dan arweiniad yr Athro Syr Steve Smith, Cynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog dros Addysg, roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Adran Masnach Ryngwladol, yr Adran Addysg a chwe phrifysgol o'r DU.

Meddai'r Athro Lamie, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol: “Mae gan Brifysgol Abertawe bartneriaeth hirsefydlog â Saudi Arabia ac rydyn ni'n falch o'i datblygu ymhellach drwy raglen meistr newydd.

“Mae gwella cynrychiolaeth yn hanfodol er mwyn ateb problemau yn y byd go iawn, a bydd y rhaglen MSc mewn Arloesedd Ynni'n cyfrannu at weledigaeth genedlaethol Saudi Arabia, yn ogystal ag ysbrydoli ysgolheigion benywaidd y wlad honno i fod yn arweinwyr yn y sector.”

Llofnodwyd y cytundeb yn y Gynhadledd a'r Arddangosfa Addysg Ryngwladol (ICEE), sef un o'r ffeiriau addysg mwyaf yn y Dwyrain Canol.

Wedi'i threfnu gan Weinyddiaeth Addysg Saudi Arabia, mae'r ICEE yn darparu llwyfan ar gyfer arddangos tueddiadau a datblygiadau newydd ym maes addysg.

Cymerodd Prifysgol Abertawe ran yn y digwyddiad pedwar diwrnod, lle cyfarfu cydweithwyr â darpar fyfyrwyr a phartneriaid o Saudi Arabia.

Yn ogystal, cafodd y tîm yr anrhydedd o groesawu ymweliad gan yr Athro Amal Fatani, Attaché Diwylliannol Saudi Arabia i'r DU.

Meddai Mohammed Hadia, Pennaeth Rhanbarthol Prifysgol Abertawe ar gyfer y Dwyrain Canol, Affrica a Phacistan: “Mae Saudi Arabia bob amser wedi bod yn bartner pwysig i Brifysgol Abertawe yn y Gwlff a rhanbarth ehangach y Dwyrain Canol.

“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'r ffydd y mae ein partneriaid o Saudi Arabia wedi dangos ynom ni i baratoi eu myfyrwyr i weithio ar ddatblygu ac ategu gweledigaeth genedlaethol y Deyrnas ar gyfer 2030.”

Rhannu'r stori