Baner LGBT

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol.

Mae rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn cael ei llunio o'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – prif offeryn meincnodi'r DU ar gyfer cynhwysiant LGBTQ+ yn y gweithle.

Mae cwblhau'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn ymarfer gwirfoddol, blynyddol sy'n galluogi cyflogwyr i fesur a gwella eu harferion cynhwysiant.

Eleni mae Prifysgol Abertawe wedi:

  • Dringo o safle 47 i 26, sef ei chanlyniad gorau hyd yn hyn yn nhabl cynghrair cyflogwyr y DU.
  • Gwella ei safle ymhlith cyflogwyr y sector addysg sy'n cymryd rhan, gan ddringo o chweched i bumed.
  • Derbyn dyfarniad safon aur, sy'n cydnabod bod y Brifysgol wedi gwreiddio cydraddoldeb i bobl LGBTQ+ yn ei meysydd gwaith craidd ar y lefel uchaf.

Meddai’r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Addysg: “Fel sefydliad, rydym yn parhau i herio homoffobia, deuffobia a thrawsffobia, ac yn ceisio darparu amgylchedd gweithio a dysgu cadarnhaol a chynhwysol sy'n galluogi ein cydweithwyr a'n myfyrwyr LGBTQ+ i gael eu parchu am eu hunaniaeth a'u mynegiant. Rydym yn cefnogi'r holl bobl LGBTQ+ yn ein cymuned ac yn sefyll ochr yn ochr â hwy, ac rydym yn falch o'r gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau ein bod yn parhau i hyrwyddo amrywiaeth, cynwysoldeb ac amrywiaeth.

“Mae'r Brifysgol a'n Rhwydwaith Staff LGBT+ wedi cydweithio i wneud Abertawe mor oddefgar â phosib yn ystod cyfnod anodd iawn i'r gymuned LGBTQ+, ac mae gwella ein safle a derbyn dyfarniad lefel aur, sy'n bwysig iawn, yn dangos ein bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae'r cyflawniad hwn yn dangos ein sefyllfa bresennol ac, yn bwysig iawn, i ba gyfeiriad rydym yn mynd, a byddwn yn adeiladu ar hyn yn y dyfodol wrth i ni barhau i roi newid ar waith, yn ogystal â darparu gwybodaeth a digwyddiadau ar y cyd ag aelodau o rwydwaith ein staff, ein cyfeillion a'r gymuned ehangach.

“Rydym yn falch bod Prifysgol Abertawe'n parhau i ddathlu ein gwerthoedd drwy ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, sy'n rhan gynhenid o'n Prifysgol.”

Rhannu'r stori