Ffetws yn y groth

Mae cael eich denu at bartneriaid o'r un rhyw yn gyffredin mewn bodau dynol ond nid yw dylanwadau biolegol ar gyfunrhywiaeth a deurywioldeb wedi'u deall yn llawn.

Bellach mae ymchwil newydd sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe'n archwilio'r awgrym bod hormonau rhyw yn y ffetws yn dylanwadu ar atyniad rhywiol y mae pobl yn ei brofi'n hwyrach mewn bywyd. 

Gan ymhelaethu ar waith cynharach a oedd yn cysylltu incwm rhieni â hormonau rhyw ffetws, mae'r Athro John Manning, o dîm ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM), a'i gydweithwyr wedi ystyried, am y tro cyntaf, y cysylltiadau rhwng incwm rhieni ac ymddygiad rhywiol eu plant pan fyddant yn oedolion. 

Yn ôl yr ymchwilwyr, canfuwyd yr amlder uchaf o gael eich denu at yr un rhyw mewn plant yn y grŵp incwm isaf (25%), yr amlder isaf yn y grŵp incwm ychydig yn uwch nag eraill, ac amlder mwy mynych o gael eich denu at yr un rhyw mewn plant yn y 25% uchaf o'r boblogaeth. 

Mae'r astudiaeth, sydd newydd gael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn ar-lein Evolutionary Psychology, yn gydweithrediad rhwng yr Athro Manning, Bernhard Fink o Brifysgol Fienna a'r biolegydd esblygol a chymdeithasol o America Robert Trivers. 

Meddai'r Athro Manning:  "Mae'r canfyddiadau newydd hyn yn awgrymu bod estrogen uchel yn y ffetws yn ffactor wrth gael eich denu at bobl o'r un rhyw boed yn ddynion neu'n fenywod mewn plant rhieni incwm isel. I'r gwrthwyneb, gall testosteron uchel yn y ffetws mewn plant gwrywaidd a benywaidd rhieni incwm uchel gael ei gysylltu ag atyniad at bobl o'r un rhyw.“ 

"Mae'r awduron hefyd wedi awgrymu bod estrogen uchel yn y ffetws yn gysylltiedig â rolau 'benywaidd' ac 'ymostyngol' mewn pobl hoyw fenywaidd a gwrywaidd.  Hefyd, gall testosteron cyn-geni uchel gael ei gysylltu â rolau 'gwrywaidd' a 'di-ildio' mewn pobl hoyw fenywaidd a gwrywaidd." 

Mae'r ymchwil yn dilyn astudiaeth flaenorol gan yr Athro Manning a gyhoeddwyd y llynedd a ganfu fod mamau incwm isel yn benyweiddio eu plant yn y groth drwy addasu eu hormonau, lle mae mamau incwm uchel yn gwneud eu babanod yn fwy gwrywaidd. 

Roedd yr astudiaeth honno yn seiliedig ar y berthynas rhwng hyd mynegfys a bys modrwy person a elwir hefyd yn gymhareb 2D:4D. Mae bys modrwy hir yn nodi lefelau uwch o destosteron cyn-geni, ac mae mynegfys hir yn nodi lefelau uwch o estrogen cyn-geni. Yn gyffredinol, mae gan ddynion fysedd modrwy hirach na menywod, ond mae gan fenywod fynegfysedd hirach na dynion.

 

Rhannu'r stori