Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, bydd dau fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cael y cyfle i dreulio blwyddyn yn Canberra. Ar ôl hynny, bydd y cynllun cyfnewid ar agor i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol, a bydd hyd at 10 myfyriwr yn cael cymryd rhan.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, bydd dau fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cael y cyfle i dreulio blwyddyn yn Canberra. Ar ôl hynny, bydd y cynllun cyfnewid ar agor i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol, a bydd hyd at 10 myfyriwr yn cael cymryd rhan.

 

Bydd myfyrwyr israddedig Abertawe yn cael y cyfle i astudio dramor yn Awstralia, diolch i gytundeb cyfnewid myfyrwyr newydd wedi'i lofnodi gyda Phrifysgol Canberra.

Y rhaglen gyfnewid, a fydd yn dechrau yn 2023, yw'r fantais ddiweddaraf o ganlyniad i'r bartneriaeth ffyniannus rhwng y ddwy brifysgol.

Mae'r cynllun cyfnewid ar agor i fyfyrwyr Abertawe sydd wedi cofrestru ar raglenni gradd y Brifysgol sy'n cynnwys blwyddyn dramor. Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, bydd dau fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cael y cyfle i dreulio blwyddyn yn Canberra. Ar ôl hynny, bydd y cynllun cyfnewid ar agor i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol, a bydd hyd at 10 myfyriwr yn cael cymryd rhan.

Mae Canberra - sef prifddinas Awstralia - wedi ennill y teitl Dinas Orau i Fyw Ynddi yn Awstralia sawl gwaith, gan ei bod yn agos at gaeau eira, parciau cenedlaethol a thraethau yn ogystal â Sydney.

Y cytundeb newydd gyda Phrifysgol Canberra yw'r bumed raglen cyfnewid myfyrwyr y mae Abertawe yn ei chynnig gyda phrifysgolion yn Awstralia. Y lleill yw Prifysgol Deakin, Prifysgol Technoleg Queensland, Prifysgol De Cymru Newydd a Phrifysgol Newcastle.

Mae partneriaeth gyffredinol Abertawe gyda Phrifysgol Canberra, a ddechreuodd ym mis Mehefin 2021, yn cynnwys addysgu ac ymchwil yn ogystal â chyfleoedd cyfnewid myfyrwyr.

Mae eisoes wedi arwain at sawl cydweithrediad ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy'n faes cryfder yn y ddwy brifysgol, gan gynnwys:

  • Cyfres o seminarau ar y cyd;
  • Cydweithrediadau ymchwil ar bynciau sy'n cynnwys llythrennedd seicolegol ym maes chwaraeon ieuenctid, profi perfformiad gwybyddol mewn athletwyr chwaraeon tîm, a mantais cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon ar gyfer swyddogaeth imiwnedd;
  • Cyfnodau sabothol i staff;
  • PhDs cydweithredol;
  • Cydweithrediadau addysgu er mwyn datblygu modelau addysgu rhith-wirionedd ar gyfer anatomeg ac er mwyn archwilio lles myfyrwyr a fydd yn llywio argymhellion ac ymyriadau sy'n gwella lles myfyrwyr yn Abertawe ac ym Mhrifysgol Canberra;

Hefyd, mae trafodaethau ar y gweill ynghylch cydweithrediadau yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Mae gan y Brifysgol safbwynt byd-eang a chymuned staff a myfyrwyr sy'n amrywiol ac yn gynhwysol, ac rydym yn frwdfrydig am bŵer trawsnewidiol cyfnewid myfyrwyr. Yn sgîl pandemig byd-eang a'r heriau o ganlyniad i gyfyngiadau teithio, rydym yn falch iawn o allu cynnig y cyfle hwn i'n myfyrwyr bellach, sef cyfle a all newid bywydau, drwy ein partneriaeth ddatblygol â Phrifysgol Canberra."

Meddai'r Athro Paddy Nixon, Is-ganghellor a Llywydd Prifysgol Canberra:

"Mae rhaglenni cyfnewid yn ychwanegu haen drwy brofiad at astudio sy'n gyfoethogol ac sy'n newid bywydau. Mae myfyrwyr yn cael darganfod maes gwyddoniaeth a thechnoleg sy'n wahanol iawn yn ddiwylliannol, fel y mae dysgu ymdrochol, ac maen nhw'n meithrin gwerthfawrogiad o ddiwylliant a threftadaeth gwlad y gyrchfan.

Dr Laura Mason yw cyd-bennaeth yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe, ar y cyd â'r Athro Liam Kilduff sydd hefyd yn bennaeth tîm ymchwil A-STEM yr adran.

Meddai Dr Laura Mason:

"Mae'n wych gweld y cydweithrediad hwn yn mynd o nerth i nerth. Mae ef eisoes yn creu sawl allbwn gwych o ran ymchwil ac addysgu, ac ar ôl ychwanegu'r rhaglen cyfnewid myfyrwyr yn ddiweddar bydd hynny ond yn gwella ymhellach y cyfleoedd i'n myfyrwyr."

Ychwanegodd Dr Caroline Coleman-Davies, Dirprwy Bennaeth Partneriaethau Academaidd ym Mhrifysgol Abertawe:

"Rwyf wedi gweld yr effaith a all newid bywydau y mae astudio dramor yn ei chael ar ein myfyrwyr, felly rwy'n falch iawn y gallwn roi'r cyfle i fyfyrwyr Abertawe astudio yn Canberra, a dangos i fyfyrwyr o Brifysgol Canberra bopeth sydd gan Abertawe i'w gynnig hefyd."

Am ragor o wybodaeth am raglenni cyfnewid Prifysgol Abertawe, ewch i dudalennau gwe Ewch yn Fyd-eang

Rhannu'r stori