Llun o fenyw ifanc yn ei harddegau sy'n dioddef o ganser â thiwb yn ei thrwyn mewn gwely wrth ochr menyw'n gwenu â'i braich o'i hamgylch
 

Mae myfyrwraig aeddfed a gafodd drasiedi enbyd yn ei theulu yn ystod ei chwrs gradd bellach wedi graddio'n llwyddiannus, er cof am ei diweddar ferch. 

Roedd Megan Jones yn 15 oed yn unig pan gollodd ei brwydr â lewcemia ym mis Chwefror 2019.

Roedd Emma Tamplin, ei mam, yn ail flwyddyn BSC mewn Rheoli Busnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe pan ddechreuodd cyflwr Megan ddirywio. Rhoddodd ei hastudiaethau o'r neilltu ac ymroddodd i ofalu am ei merch.

“Ond fy nod i oedd dychwelyd i'r Brifysgol, er mwyn dal ati yn fy mywyd, yn ogystal â thalu teyrnged i Megan oherwydd mai dyna'r peth olaf roedd hi'n fy nghofio yn ei wneud ac roedd hi mor falch ohonof i,” meddai Emma, o Gastell-nedd, sy'n 41 oed.

Mae ei phenderfyniad wedi talu ar ei ganfed gan ei bod newydd raddio gyda 2:1 a mynd rhagddi i lansio ei busnes ei hun yn y sector iechyd da.

Mae Emma bellach wedi canu clodydd staff y Brifysgol a'i chyd-fyfyrwyr a'i helpodd ar ei thaith.

“Roedd y Brifysgol mor gefnogol, o safbwynt ariannol a fy lles. Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod i’n rhan o sefydliad o'r fath. Rhoddodd ofal yn ystod fy mhrofedigaeth a'r cymorth a wnaeth fy ngalluogi i ailgydio yn fy astudiaethau ar ôl i Megan farw.”

Yn ogystal â bod yn ffotograffydd brwd, roedd Megan yn bêl-droediwr talentog cyn iddi fynd yn sâl yn 2015. Ar ôl ei diagnosis cychwynnol, ymatebodd yn dda i driniaeth, gan gael y newyddion ei bod yn holliach ym mis Gorffennaf 2017.

Fodd bynnag, aeth yn sâl eto yn ystod y flwyddyn ganlynol. Er gwaethaf gofal arbenigol yng Nghaerdydd, dirywiodd ei chyflwr a bu farw yng nghwmni ei theulu.

Meddai Emma: “Dychwelais i i'r Brifysgol chwe mis yn ddiweddarach. Dywedodd llawer o bobl wrtha i ei bod hi'n rhy fuan, ond roeddwn i am orffen fy ngradd er fy merch. Roeddwn i hefyd am ddangos i bobl y gallan nhw gyflawni unrhyw beth, waeth pa mor galed y mae bywyd. Hyd yn oed yn ystod eich cyfnodau tywyllaf, mae bob amser olau ac os ydych chi'n dal i edrych arno, bydd yn disgleirio yn y pen draw.

“Mae etifeddiaeth Megan o benderfyniad a chryfder yn dal yn fyw drwof i a phawb a oedd yn ei hadnabod.”

Dewisodd Emma ei chwrs yn wreiddiol er mwyn ehangu ei gwybodaeth am farchnata digidol a rheoli busnes yn gyffredinol.

Meddai: “Pan benderfynais i fy mod i am fod yn fyfyriwr aeddfed, roeddwn i'n benderfynol o fanteisio i'r eithaf ar y cwrs. Roeddwn i hefyd am gymryd rhan lawn ym mywyd y Brifysgol, felly ymunais i â'r Gymdeithas Entrepreneuriaeth a gwnes i rai ffrindiau gwych.”

Dywedodd fod safon uchel yr addysgu a'r dull addysgu a gynigiwyd gan y cwrs yn arbennig o bleserus.

“Rwyf wedi bod yn entrepreneur ers bod yn 22 oed ac roedd gweld buddsoddiad yr Ysgol Reolaeth yn yr ochr honno'n destun ysbrydoliaeth.”

Meddai Nicki Suddell, Swyddog Asesu a Dyfarniadau yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Hoffwn i estyn llongyfarchiadau mawr i Emma am ei llwyddiant anhygoel o ran canlyniad ei gradd. Mae gwaith caled a phenderfyniad Emma wedi dwyn ffrwyth ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi Emma drwy gydol ei hastudiaethau a'i bod hi wedi llwyddo i gyflawni ei nod.

“Mae'r Brifysgol yn cynnig help ac arweiniad amrywiol, ac mae'n wych pan fydd myfyrwyr yn manteisio'n llawn ar y cymorth a gynigir. Dymunaf y gorau i Emma ar gyfer y dyfodol.”

Mae Emma bellach yn edrych tua'r dyfodol, diolch i'w gradd. “Er mwyn fy helpu i ymdopi â fy ngalar, yn ystod fy nwy flynedd olaf yn Abertawe gwnes i hyfforddi i fod yn athro ac yn hyfforddwr ioga fel y galla i gefnogi menywod eraill sy'n wynebu trafferthion tebyg a'u hysbrydoli i wireddu eu breuddwydion a chyflawni eu nodau.

“Rwyf bellach yn defnyddio'r wybodaeth y gwnes i ei meithrin yn y Brifysgol er mwyn helpu menywod ym mhedwar ban byd i roi strategaethau ar waith i greu bywyd gwaith a theulu llawn boddhad.

“Rwyf bellach wedi gwireddu breuddwyd gydol oes ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosib heb agwedd ofalgar a chefnogol Prifysgol Abertawe.”

Rhagor o wybodaeth am gyrsiau yn yr Ysgol Reolaeth

Rhannu'r stori