Dyn mewn siwt a thei yn sefyll ger arwydd am gynhadledd

Mae'r Athro Michael Draper o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gwneud cyfraniad allweddol at ddigwyddiadau rhyngwladol i amlygu moeseg ac uniondeb academaidd. 

Roedd yr Athro Draper, o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol, yn rhan o drafodaeth panel mewn gweminar arbennig a drefnwyd i gyd-fynd â'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Twyllo Academaidd Masnachol (contract cheating) ddydd Mercher diwethaf.

Trafododd y seminar yr hyn y gellir ei wneud ar lefel sefydliadol i ddiogelu uniondeb academaidd a mynd i'r afael â thwyllo academaidd masnachol yn sgîl y penderfyniad diweddar i wneud yr hyn a elwir yn felinau traethodau yn anghyfreithlon yn Lloegr ac Iwerddon.

Mae'r Athro Draper, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Addysg yn Abertawe, yn arbenigwr ym maes uniondeb academaidd ac roedd yn rhan o dîm y Brifysgol a wnaeth ymchwil proffil uchel i raddau'r twyllo academaidd masnachol a geir mewn addysg uwch.

Meddai'r Athro Draper: “Mae sicrhau uniondeb academaidd yn fater cymdeithasol hollbwysig ac nid yw'n fater i sefydliadau addysgol yn unig.”

Trefnwyd y seminar gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch y DU (QAA), y corff aelodaeth ar gyfer sefydliadau addysg uwch, sy'n gweithio er budd myfyrwyr ac addysg uwch. Fe'i cynhaliwyd yn y gynhadledd i ddathlu deng mlynedd QQI (Quality and Qualifications Ireland).

Fe'i cynhaliwyd yn Nulyn yn dilyn digwyddiad lansio'r Global Academic Integrity Network (GAIN). Mae'r consortiwm hwn yn dod ag asiantaethau ansawdd ac uniondeb addysg ynghyd o bedwar ban byd i frwydro yn erbyn twf gwasanaethau twyllo academaidd masnachol sy'n targedu myfyrwyr.

Gan gynrychioli Cyngor Ewrop, un o'r sefydliadau sy'n cymeradwyo GAIN, siaradodd yr Athro Draper yn y digwyddiad lansio i amlygu'r argymhelliad yr helpodd i'w lunio ynghylch twyll mewn addysg. Ar ôl cael ei fabwysiadu gan 44 aelod-wladwriaeth Cyngor Ewrop bellach, mae'r argymhelliad yn galw am gydweithrediad rhyngwladol i atal twyll mewn addysg, ymysg materion eraill.

Fis nesaf, bydd yr Athro Draper yn parhau â'i ymrwymiadau rhyngwladol ym maes uniondeb academaidd drwy gyflwyno'r prif anerchiad a chymryd rhan mewn symposiwm ar-lein i brifysgolion yn Ne Affrica. Yna bydd yn dychwelyd i bencadlys Cyngor Ewrop yn Strasbwrg i adrodd yn ôl am ei gyflwyniad ar arferion gorau yn Rotterdam a rhoi'r newyddion diweddaraf i'r aelod-wladwriaethau am y broses o roi ar waith yr argymhelliad ynghylch atal twyll mewn addysg.

Uchafbwyntiau Ymchwil - Mynd i'r afael â thwyllo trwy contract, rhith-awduron a melinau traethodau mewn addysg uwch

 

Rhannu'r stori