Tri myfyriwr yn eistedd ar y traeth

https://www.theguardian.com/education/ng-interactive/2021/sep/11/the-best-uk-universities-2022-rankings

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei statws ymysg y 25 prifysgol orau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide, gan gael ei rhestru yn y 24ain safle yn genedlaethol ac aros ar y brig yng Nghymru yn yr argraffiad diweddaraf ar gyfer 2022, a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn 11 Medi.

Mae The Guardian University Guide wedi sefydlu'i hun fel tabl cynghrair allweddol ar gyfer prifysgolion y Deyrnas Unedig ac fel un o'r prif ddewisiadau ar gyfer myfyrwyr ledled y byd wrth iddynt benderfynu pa brifysgol sydd orau iddynt hwy.

Mae'r canllaw diweddaraf yn cynnwys tablau cynghrair sy'n rhestru 121 o brifysgolion yn ôl nifer o feini prawf, gan gynnwys boddhad myfyrwyr yn seiliedig ar gyrsiau, addysgu ac adborth, yn ogystal â chyfradd y myfyrwyr sy'n gadael eu cyrsiau a chyfran y graddedigion sy'n cael cyflogaeth broffesiynol neu sy'n dilyn astudiaethau pellach ar ôl graddio. Mae ef hefyd yn cynnwys tablau cynghrair sy'n rhestru prifysgolion yn ôl maes pwnc.

O ran boddhad cwrs, sef y sgôr a roddwyd gan fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf am ansawdd cyffredinol eu cwrs yn yr arolwg cenedlaethol diweddaraf o fyfyrwyr, mae Abertawe wedi cael ei rhestru'n chweched yn y DU am yr ail flwyddyn yn olynol.

Yn ogystal, mae Abertawe wedi dringo naw safle i gael ei rhestru'n 22ain yn y DU am foddhad addysgu, gan aros yn y 23ain safle am ragolygon graddedigion.

Ar lefel pynciau, mae saith pwnc yn y 10 uchaf yn y DU:

  • Anatomeg a Ffisioleg – 3ydd
  • Meddygaeth – 4ydd
  • Troseddeg – 6ed
  • Astudiaethau Americanaidd – 6ed
  • Peirianneg: Deunyddiau a Mwynau – 8fed
  • Astudiaethau'r Cyfryngau a Ffilm – 9fed
  • Nyrsio a Bydwreigiaeth – 9fed

Mae pum pwnc arall yn ymddangos yn y 25% uchaf yn y tabl perthnasol i'w pwnc:

  • Y Gyfraith
  • Y Biowyddorau
  • Proffesiynau Iechyd
  • Hanes
  • Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth

Meddai'r Athro Steve Wilks, Profost Prifysgol Abertawe: “Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn yn The Guardian University Guide yn ardderchog i Abertawe ac mae'n wych gweld y fath gydnabyddiaeth i waith caled ac ymrwymiad cydweithwyr ym mhob rhan o'r brifysgol. Er gwaethaf y cyfnod heriol rydym wedi ei wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cadw ein statws ymhlith y 25 prifysgol orau yn y DU ac rydym wedi aros ar y brig yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'r canlyniadau o ran boddhad myfyrwyr yn y canllaw hwn hefyd yn dangos ymdrechion ac ymrwymiad ein staff i sicrhau bod myfyrwyr wedi parhau i ddysgu a chael eu cefnogi yn ystod y pandemig.

“Mae'r canlyniadau hyn yn amlygu ymrwymiad Abertawe i gyflwyno profiad ardderchog i fyfyrwyr, gan sicrhau bod ein graddedigion yn magu'r sgiliau angenrheidiol i fynd rhagddynt a mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus a buddiol.”

Gweler tablau The Guardian University Guide 2022 yn eu cyfanrwydd.

Rhannu'r stori