Golwg agos ar fenyw ifanc â gwallt brown hyd ei hysgwyddau yn gwenu - Abbie Thomas

Mae menter sy'n ceisio hyrwyddo'r wybodaeth sydd ar gael yn eich fferyllfa leol wedi ysbrydoli myfyrwraig o Brifysgol Abertawe i ennill cystadleuaeth.

Abbie Thomas, sy'n astudio am BSc yn Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol, yw enillydd cystadleuaeth ysgrifennu flynyddol Pharmacology Matters eleni wrth i'r beirniaid ei chanmol am archwilio testun pwysig mewn modd llithrig a chlir. 

Gwnaeth ei herthygl, A growing rep and curing strep – the rise of community pharmacy, grybwyll y cynllun peilot Profi a Thrin Dolur Gwddf, a lansiwyd yng Nghymru i dynnu sylw at yr arbenigedd a gynigir gan fferyllwyr cymunedol – yn enwedig o ran anhwylderau cyffredin megis dolur gwddf. 

Yn ôl Abbie, sy'n hanu o Lantrisant, fe'i hysbrydolwyd gan ddarlith wadd gan yr Athro Andrew Morris, pennaeth rhaglen MPharm Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a esboniodd y prosiect yn ogystal â'r wybodaeth amrywiol y mae fferyllfeydd ym mhob stryd fawr yn gallu ei chynnig am ddim i gleifion. 

Meddai Abbie: “Gall defnyddio'r timau helaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol helpu i leddfu'r pwysau sy'n wynebu meddygfeydd. Roeddwn am dynnu sylw at werth fferylliaeth fel proffesiwn.” 

Mae Abbie bellach yn gobeithio bod yn feddyg ond mae'n cyfaddef bod ei llwybr i addysg uwch wedi bod yn un anghonfensiynol. 

“Roeddwn yn 27 oed a chyn dechrau yn yr Ysgol Feddygaeth yn 2019, nid oeddwn wedi ymwneud â gwyddoniaeth o gwbl ers i mi sefyll arholiadau TGAU. Rwyf yn hynod ddiolchgar i bawb am ddangos ffydd ynof ac am roi'r cyfle i mi ddilyn fy mreuddwyd o fod yn feddyg. 

“Mae'r holl staff yn anhygoel, yn gefnogol ac yn ysbrydoledig. Mae Dr Nia Davies a'i chydweithwyr wedi creu blwyddyn sylfaen anhygoel a wnaeth fy helpu i ddysgu popeth roedd ei angen arnaf i ddilyn y cwrs BSc, gan ddechrau o'r dechrau. 

“Nid yw staff Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe am gyfyngu eu hunain i roi darlithoedd i chi. Mae hi mor amlwg bod ganddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn dod i'ch adnabod a'ch helpu i gyflawni eich nodau.”

Ar ôl cwblhau ei gradd, mae Abbie am ymuno â rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Prifysgol Abertawe.

Ychwanegodd: “Ar hyn o bryd, rwyf am arbenigo fel meddyg teulu, felly roedd archwilio ffyrdd o leddfu'r pwysau sy'n wynebu meddygon teulu yn ysgogiad arall i'm herthygl.”  

Drwy ennill y gystadleuaeth, mae Abbie wedi mynd gam yn well na Gabriella Santiago, myfyrwraig arall ar y cwrs Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol, a gyrhaeddodd y rhestr fer y llynedd. 

Meddai'r uwch-ddarlithydd Dr Aidan Seeley: “Mae Cymdeithas Ffarmacoleg Prydain yn gymdeithas ddysgedig a chanddi fwy na 4,000 o aelodau ledled y byd, sy'n dangos bod hon yn gamp aruthrol. 

“Fel Cadeirydd y grŵp cynghori ffarmacolegwyr gyrfa gynnar, rwy'n hynod falch o weld ein gwyddonwyr gyrfa gynnar yma yn Abertawe'n ffynnu yn y gymuned academaidd ehangach. Mae erthygl Abbie yn llawn haeddu ei llwyddiant ac yn dangos brwdfrydedd ein myfyrwyr. Llongyfarchiadau, Abbie!”

Rhannu'r stori