Logo Gŵyl Wyddoniaeth Merthyr.

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu harbenigedd gyda'r gymuned mewn penwythnos arbennig llawn digwyddiadau ar-lein.

O ddangos sut mae byd natur yn ein helpu i ddatblygu cyffuriau newydd, i archwilio'r cysylltiad rhwng ffiseg gronynnau a chwaraeon, a chymryd cip agos ar DNA, bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau i bobl o bob oedran yng Ngŵyl Wyddoniaeth Merthyr eleni.

Sefydlwyd yr ŵyl gan Dr Claire Price, ymchwilydd yn y Ganolfan Bioamrywiaeth Cytocrom P450 yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a bydd hi'n dychwelyd eleni ar ffurf achlysur rhithwir am ddim o 16 i 18 Gorffennaf.

Meddai Dr Price: “Mae'n wych y gallwn gynnal yr ŵyl eleni, hyd yn oed ar-lein. Rydym wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw gwyddoniaeth i'n bywydau ac i'n cymdeithas, felly mae'n wych y gallwn ddefnyddio'r cyfrwng hwn i gyflwyno gwyddoniaeth a gwaith ymchwil arloesol i gynifer o bobl â phosib.”

Prif atyniad y digwyddiad fydd Marty Jopson, cyflwynydd gwyddoniaeth The One Show ar BBC1, a bydd sesiynau eraill dan arweiniad rhai o gydweithwyr Dr Price yn y Brifysgol, gan gynnwys:

  • More than CO2: Positive Feedback Loops in Climate Change – Dr Pamela Styles, SALT;
  • Nano-experiments! See DNA and a sweet self-assembly – Dr Jezabel Garcia Parra, Meddygaeth;
  • Natural Nurture – Dr Adam Turner, Meddygaeth;
  • Let’s have a look at DNA! – Dr Remi Zallot, Meddygaeth;
  • Particle Physics for Sports Fans – yr Athro Chris Allton, Ffiseg/Oriel Science.

Y llynedd, oherwydd ei hymroddiad i wneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch i'w thref leol a'r gymuned ehangach, cafodd Dr Price ei hanrhydeddu yng Ngwobrau Allgymorth ac Ymgysylltu'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol, sy'n dathlu ymchwilwyr sy'n cyflwyno eu gwaith drwy ddefnyddio dulliau newydd o ennyn brwdfrydedd cynulleidfaoedd penodol.

Gweler yr amserlen gyflawn a chofrestrwch ar gyfer sesiynau byw a rhai sydd wedi cael eu recordio.

Rhannu'r stori