Safle diwydiannol gyda chymylau o fwg yn llifo i'r atmosffer.

Cafwyd hwb i ymchwil gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Diogelu Ynni Prifysgol Abertawe ar atebion i’r newid yn yr hinsawdd trwy dderbyn cyllid gan Ganolfan Ymchwil Cipio a Storio Carbon y Deyrnas Unedig (UKCCSRC).

Technoleg i liniaru’r newid yn yr hinsawdd yw cipio carbon, lle mae modd cipio CO2 yn uniongyrchol o weithrediadau diwydiannol, yn hytrach na’i allyrru i’r atmosffer, ac mae Dr Enrico Andreoli a’i dîm yn ESRI yn ymchwilio i ddeunyddiau newydd ar gyfer cipio carbon o brosesau diwydiannol.

Gan weithio ochr yn ochr â Phrifysgol Pisa ac Immaterial Ltd, bydd ESRI yn defnyddio’r arian gwerth bron i £30,000 i chwyddo graddfa deunydd newydd cipio carbon yn y labordy. Hefyd bydd cynlluniau’n cael eu paratoi i brofi’r deunyddiau hyn mewn lleoliadau diwydiannol trwy’r prosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), sy’n werth £11.5m ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Mae’r UKCCSRC, sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, ac sy’n bartneriaeth o 11 o sefydliadau partner academaidd yn y Deyrnas Unedig, wedi darparu cyllid ar gyfer nifer o brosiectau newydd i helpu’r Deyrnas Unedig i gyflawni ei thargedau allyriadau sero net o ran Nwyon Tŷ Gwydr. Bydd y cyllid yn cefnogi ymchwil ar gipio CO2 o ffynonellau diwydiannol, ac mae’n dilyn cyfres o weithdai UKCCSRC dan arweiniad y diwydiant a’r rheoleiddwyr i ganfod bylchau lle gallai prosiectau ymchwil llwybr carlam gael yr effaith fwyaf.

Wedi’r dyfarniad, dywedodd Dr Andreoli: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cyllid gan UKCCSRC, mae’n gyfle unigryw i arddangos chwyddo graddfa’r MOF wedi’i fflworineiddio yn y labordy, i werthuso agweddau at weithgynhyrchu monolith, ac i brofi ei berfformiad deinamig o ran cipio carbon."

Dywedodd Jeremy Carey, Cadeirydd Bwrdd UKCCSRC:

“Rydym ni wrth ein bodd gyda lefel uchel ymgysylltiad diwydiant â’r prosiectau amrywiol hyn sydd mewn cyfnod cymharol gynnar, ac yn gyffrous i weld effaith canlyniadau’r ymchwil.”

Dywedodd yr Athro Andrew Barron, Cyfarwyddwr ESRI:

 “Mae’r cyfleusterau yn ESRI a phrosiect RICE yn caniatáu i ni brofi deunyddiau newydd ar gyfer cipio carbon ar lwybr carlam, er mwyn darparu atebion ar gyfer heriau allyriadau penodol pob diwydiant.”

Rhannu'r stori