Map: mae'r morfeydd ar hyd ymylon morydau'n achosi ffrithiant, gan arafu ymchwyddiadau dŵr mewn stormydd, ac amddiffyn rhag llifogydd mewn ardaloedd i fyny afonydd (coch) sydd mewn perygl.

Map: mae'r morfeydd ar hyd ymylon morydau'n achosi ffrithiant, gan arafu ymchwyddiadau dŵr mewn stormydd, ac amddiffyn rhag llifogydd mewn ardaloedd i fyny afonydd (coch) sydd mewn perygl.

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod gwlyptiroedd arfordirol – megis morfeydd heli – yn amddiffyn rhag llifogydd hyd yn oed yn well na'r disgwyl, gan leihau'r perygl i bobl a chartrefi mewn morydau.

Gwnaeth efelychiadau'r ymchwilwyr ddangos bod gwlyptiroedd sy'n tyfu mewn morydau, megis morfeydd heli, yn gallu lleihau lefelau dŵr hyd at ddau fetr ac amddiffyn rhag llifogydd ymhell i'r tir ar hyd sianeli morydau.

O ganlyniad i hyn, arbedwyd hyd at $38 (£27) miliwn drwy leihau costau difrod yn ystod storm fawr oherwydd bod y gwlyptiroedd yn atal llifogydd rhag digwydd mewn stormydd.

Mae'r ymchwil yn amserol gan fod gwaith datblygu trefol parhaus yn cynyddu'r bygythiad i wlyptiroedd. Mae 22 o'r 32 ddinas fwyaf yn y byd – gan gynnwys Llundain, Efrog Newydd a Tokyo – yn adeiladu ar dir isel ger morydau, sy'n cynyddu'r perygl y ceir llifogydd mewn hinsawdd sy'n cynhesu. Ar yr un pryd, mae newid yn yr hinsawdd yn achosi i raddau ac amlder stormydd gynyddu, ac i lefel y môr godi.

Felly, mae gwaith gwlyptiroedd arfordirol, sy'n gyffredin ledled Cymru yn ogystal ag yng ngweddill y byd, i atal llifogydd – sef pwyslais yr astudiaeth hon – yn allweddol.

Mae ymchwil flaenorol wedi canolbwyntio ar wlyptiroedd ar hyd morlinau agored, lle mae'r planhigion yn amsugno ynni tonnau ac yn eu hatal rhag gwthio i'r tir. Fodd bynnag, mae'r astudiaeth newydd yn canolbwyntio ar amgylcheddau aberol, gan gynnwys ystyried yr hyn sy'n digwydd mewn morydau i fyny afonydd, lle mae'r tonnau'n tueddu i fod yn llawer llai.

Gan ystyried y darlun mwy cyflawn hwn, mae'r ymchwilwyr yn dangos y gall gwlyptiroedd fod yn bwysicach byth wrth atal llifogydd gan eu bod yn lleihau ymchwyddiadau yn ystod stormydd wrth iddynt symud ar hyd sianeli morydau, yn ogystal ag amsugno ynni tonnau ar yr un pryd.

Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y morfeydd ar hyd ymylon morydau'n achosi ffrithiant, gan arafu ymchwyddiadau dŵr mewn stormydd, ac amddiffyn rhag llifogydd mewn ardaloedd i fyny afonydd sydd mewn perygl.

Roedd y tîm ymchwil yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, gyda chydweithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerwysg, Labordy Morol Plymouth a CSIRO yn Tasmania.

Gwnaeth y tîm ddefnyddio modelau hydrodynamig wyth moryd o feintiau a mathau gwahanol iawn mewn ardaloedd amrywiol yng Nghymru. Gwnaethant efelychu stormydd o gryfderau gwahanol a modelu'r difrod y byddent yn debygol o'i achosi.

Yn ôl eu canfyddiadau, roedd gwlyptiroedd arfordirol:

  • Yn lleihau llifogydd ym mhob un o'r wyth moryd yn yr astudiaeth
  • Yn gostwng lefelau dŵr mewn stormydd hyd at ddau fetr mewn ardaloedd i fyny afonydd
  • Yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn wyneb y stormydd mwyaf pwerus – gan leihau graddau cyfartalog llifogydd 35% a lleihau difrod 37% ($8.4M).

Meddai'r prif ymchwilydd, Dr Tom Fairchild o Brifysgol Abertawe:

“Mae ein hastudiaeth yn dangos pwysigrwydd gwlyptiroedd arfordirol o ran lleihau llifogydd sy'n deillio o stormydd mewn morydau. Maent yn un o ffyrdd byd natur o amddiffyn rhag llifogydd ac mae eu hangen arnom nawr yn fwy nag erioed.

Hyd yn hyn, mae pwysigrwydd gwlyptiroedd o ran amddiffyn arfordiroedd wedi cael ei danbrisio oherwydd y pwyslais ar arfordiroedd agored. Yn draddodiadol, y rhagdybiaeth oedd bod morydau – lle mae tonnau'n tueddu i fod yn llawer llai – yn llai pwysig, er bod gwlyptiroedd helaeth ynddynt. Mae ein gwaith ymchwil yn herio'r syniad hwnnw, gan ddangos bod canolbwyntio ar brosesau unigol, neu amgylcheddau arfordirol hyd yn oed, yn gallu arwain at danbrisio gwerth gwirioneddol ein gwlyptiroedd, a hynny'n sylweddol.”

Ychwanegodd un o gyd-awduron yr astudiaeth, Dr John Griffin, sydd hefyd o Brifysgol Abertawe:

“Mae ein gwaith yn dangos bod byd natur yn gweithio'n galetach ar ein rhan pan geir stormydd mawr, gan atal neu leihau llifogydd arfordirol … am ddim. Yn y pen draw, drwy amddiffyn ac adfer gwlyptiroedd arfordirol, rydym yn helpu i amddiffyn ein hunain rhag bygythiad cynyddol llifogydd. Mae hi mor syml â hynny.”

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn Environmental Research Letters.

Dyfodol cynaliadwy, ynni a'r amgylchedd - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori