Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y dylai pob ffenestr fod ar agor wrth deithio dan 30mya yn y car (llun ar y dde)). Unwaith mae’r cyflymdra’n codi’n uwch na hynny, mae’n fwy effeithiol bod dwy ffenestr gyferbyn â’i gilydd yn unig, un yn y blaen ac un yn y cefn (llun ar y chwith).

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyflwyno canllaw cam wrth gam i leihau cysylltiad â’r coronafeirws wrth deithio mewn car, gan gynnwys cyngor pwysig a fydd yn eich synnu ar agor ffenestri.

Nododd y tîm ymchwil, sy’n cael ei gefnogi gan y Sefydliad Arloesol ym maes Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT), fesurau diogelwch allweddol ar gyfer COVID-19 wrth deithio mewn car drwy astudiaeth ar awyru optimaidd mewn ceir.

Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y dylai pob ffenestr fod ar agor wrth deithio dan 30mya yn y car.

Fodd bynnag, unwaith mae’r cyflymdra’n codi’n uwch na hynny, mae’n fwy effeithiol bod dwy ffenestr gyferbyn â’i gilydd yn unig, un yn y blaen ac un yn y cefn, ar agor i greu llif aer lletraws. Er enghraifft, ffenestr ochr y gyrrwr, a ffenestr ochr y teithiwr yn y cefn.

Erthygl BBC

Meddai arweinydd y prosiect, yr Athro Chenfeng Li:

“Pan fydd claf sydd â COVID-19 yn pesychu, caiff poer sy’n cynnwys y feirws ei allyrru ar ffurf diferynnau. Mae diferynnau mawr yn syrthio i’r ddaear yn gyflym, tra bod diferynnau bach yn anweddu’n gyflym. Mae’r diferynnau hyn o boer yn diflannu o fewn eiliadau yn yr aer, ond mae’r diferynnau bach yn rhyddhau’r feirws sydd ynddynt i’r aer ar ôl anweddu, a gall oroesi am hyd at awr a pharhau’n heintus.

Gall y feirws oroesi ar arwynebau a pharhau’n heintus am wahanol gyfnodau o amser, yn dibynnu ar y math o arwyneb. Gwasgariad y diferynnau bach hyn oedd ffocws ein hastudiaeth.”

Cynhyrchodd yr astudiaeth efelychiadau sy’n arddangos effeithiau gyrrwr yn pesychu mewn car sy’n symud ar gyflymderau amrywiol. Mae’r diferynnau bach o boer yn gwasgaru mewn ffurfiannau gwahanol yn ôl pa ffenestri sydd ar agor.

“Mae’r astudiaeth hon o drosglwyddiad mewn ceir yn cyflwyno canfyddiadau diddorol. Ar sail ein sefyllfa ni, yn ôl y disgwyl, roedd yr awyru optimaidd yn digwydd wrth gadw’r pedair ffenestr ar agor wrth yrru yn y ddinas (hyd at 30mya). Fodd bynnag, ac efallai’n groes i’r disgwyl, y llif lletraws o ffenestr ochr y gyrrwr i ffenestr ochr y teithiwr yn y cefn yw’r opsiwn mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau bod y feirws yn gadael y car wrth yrru’n gyflymach na 30mya."

"Y rheswm dros hynny yw bod llif aer parhaus a threch yn cael ei ffurfio o’r blaen i’r cefn pan fydd dwy ffenestr ar letraws ar agor, a’r ddwy arall ar gau. Wrth yrru ar gyflymder uwch, mae’r llif aer lletraws cryf hwn yn fwy effeithiol ar gyfer gwaredu gronynnau’r feirws o’r car na’r llif aer aflonydd a geir wrth agor pob un o’r pedair ffenestr.”

“Gallwn ddod i’r casgliad hefyd fod eistedd yn y blaen yn llawer mwy diogel nag eistedd yn y cefn, oherwydd bod rhan ôl y car yn cael ei halogi’n fwy gan fod llif yr aer y tu mewn i’r car yn symud yn bennaf o’r blaen i’r cefn, gan ddal rhai o ronynnau’r feirws yn y parth cefn.”

Fel rhan o’r ymchwil, astudiwyd gwisgo masgiau wyneb hefyd. Dangosodd y canlyniadau fod gwisgo gorchudd wyneb yn lleihau allyriad y feirws 90%, a bod teithwyr yn mewnanadlu 70% yn llai o’r feirws.

“Ar adeg pan fo cyfyngiadau’n cael eu llacio ar draws y Deyrnas Unedig, a ninnau’n paratoi i deithio mwy, mae’n bwysig cymryd camau i sicrhau ein bod yn cyfyngu ar unrhyw gyswllt posibl â’r feirws. Mae’r astudiaeth hon yn cyflwyno ein hargymhellion ar gyfer awyru optimaidd a lleihau trosglwyddiad.”

Mae’r Athro Li yn aelod o Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ar COVID-19. Roedd ei ganfyddiadau yn cefnogi canllawiau diweddar ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.

Ariennir y prosiect drwy raglen Sêr Cymru ar gyfer mynd i’r afael â COVID-19. Ariennir rhaglen IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Arloesi ym maes iechyd - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori