Gwnaeth 23 o fyfyrwyr entrepreneuraidd gyflwyno 19 o syniadau gwahanol i'r beirniaid, a ddyfarnodd fwy na £22,000 i 10 busnes newydd.

Rhoddwyd hwb mawr i syniadau busnes myfyrwyr blaengar yn ystod The Big Pitch, cystadleuaeth flynyddol y Brifysgol a noddir gan y fenter Prifysgolion Santander.

Nod The Big Pitch, a gynhaliwyd ar ffurf rithwir drwy Zoom, yw cynyddu ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth a helpu myfyrwyr i fagu sgiliau a chael gafael ar gymorth i roi eu syniadau ar waith.

Gwnaeth 23 o fyfyrwyr entrepreneuraidd gyflwyno 19 o syniadau gwahanol i'r beirniaid, a ddyfarnodd fwy na £22,000 i 10 busnes newydd. Dyfarnwyd lle i saith busnes ar raglen sbarduno i ddatblygu eu syniadau a bydd chwe arloeswr hefyd yn cael cymorth ychwanegol drwy brosiect AgorIp y Brifysgol.

Rhoddodd pob un o'r myfyrwyr gyflwyniad tair munud i'r pedwar beirniad: Ann Swift, Rheolwr Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru; Nicholas Davies, Rheolwr Perthnasoedd, Prifysgolion Santander; a dau entrepreneur a raddiodd o Abertawe, Ben Reynolds, Sylfaenydd Urban Foundry, a Caroline Challoner, Cyfarwyddwr Cazbah Ltd.

Roedd y busnesau'n amrywio o gludfwyd iach yn Abertawe, sef @MacroMunch, i ddillad – @toddsattire, @fightwearstoreuk, @kimfootball, @hornyvegan_clothing ac @RHMNUK. Roedd y lleill yn cynnwys y cynghorydd gofal croen @momo_skinn a gwasanaethau lles i grwpiau lleiafrifol drwy @alawproject, ochr yn ochr â gwasanaethau tasgmon, cyfrwng recriwtio ar gyfer datblygwyr, y cwmni teithio rhithwir @letzee a thechnoleg dronau.

Cafodd y myfyrwyr gyngor ymlaen llaw ar ddatblygu eu syniadau a'u cyflwyno'n effeithiol mewn gweithdai a drefnwyd gan Dîm Mentergarwch y Brifysgol, sy'n rhan o'r adran Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS).

Meddai Joshua Blackhurst, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn yr Ysgol Reolaeth a sylfaenydd Letzee:

“Gwnes i fwynhau The Big Pitch yn aruthrol. Roedd cyflwyno drwy Zoom yn brofiad unigryw a efelychodd amgylchedd cyfweliad dan bwysau. Roedd y Tîm Mentergarwch yn wych wrth sicrhau bod pawb yn teimlo'n gyfforddus wrth gyflwyno ac wrth rwydweithio wedyn. Roedd yn wych gweld cynifer o entrepreneuriaid ifanc eraill a'u syniadau unigryw a chael sgwrsio â hwy. Roeddwn yn meddwl bod amrywiaeth y dyfarniadau a'r dewisiadau datblygu a oedd yn ddibynnol ar sefyllfa pob myfyriwr yn rhesymol iawn.”

Meddai Moda Al-Burayhe, un o fyfyrwyr Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Roedd y profiad o gyflwyno'n hynod fuddiol i mi. Rhoddodd fwy o hyder i fi yn fy syniad ac roeddwn yn gwerthfawrogi adborth y beirniaid yn fawr. Rwy'n hapus iawn gyda'r canlyniad ac rwy'n ysu i ddechrau ar y rhaglen sbarduno ym mis Gorffennaf er mwyn dysgu a gwella fy musnes.”

Dywedodd yr Uwch-swyddog Mentergarwch Kelly Jordan ei bod hi'n falch bod y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth:

“Am y bedwaredd flwyddyn, rydym wedi cael ein syfrdanu gan ansawdd y syniadau a'r cyflwyniadau. Mae'r myfyrwyr yn destun balchder i Brifysgol Abertawe. Cawsom geisiadau a oedd yn deillio o dair cyfadran y Brifysgol ac o bob blwyddyn academaidd.”

Meddai Caroline Challoner, un o'r beirniaid, a chyfarwyddwr Cazbah Marketing:

“Roedd y profiad o fod yn feirniad ar gyfer The Big Pitch ym Mhrifysgol Abertawe yn hynod ddiddorol ac ysgogol. Cefais fy syfrdanu gan safon y syniadau a'r ymchwil, a chan hyder yr ymgeiswyr. Roedd y gwerthoedd a'r brwdfrydedd a ddangoswyd yn wych ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i bob un ohonynt wrth iddynt ddatblygu eu syniadau.”

Meddai un o'r beirniaid eraill, Ben Reynolds, sylfaenydd Urban Foundry:

“Roedd safon y cyflwyniadau ac amrywiaeth y syniadau gwych wedi creu argraff fawr arnaf. Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod gwerthoedd wrth wraidd llawer ohonynt – gan feddwl am ffyrdd o wella bywyd pobl. Roedd yn hyfryd gweld bod cynifer ohonynt yn canolbwyntio ar economi lles. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut byddant yn datblygu.”

Mae Tîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe'n cyflwyno "Entrepreneuriaeth Myfyrwyr: Ein Hymagwedd Strategol 2018-2023 ar ran y Brifysgol".

Dewch o hyd i wybodaeth am ffyrdd o gynorthwyo neu gael eich cynorthwyo gan y Tîm Mentergarwch 

 

Rhannu'r stori