Athro'n gwisgo masg wrth fesur tymheredd disgyblion ysgol gynradd, sydd hefyd yn gwisgo masgiau, mewn ystafell ddosbarth.

Athro'n gwisgo masg wrth fesur tymheredd disgyblion ysgol gynradd, sydd hefyd yn gwisgo masgiau, mewn ystafell ddosbarth.

Mae'r tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 a symptomau hunangofnodedig, megis anwydau, mewn ysgol yn cynyddu yn unol â nifer y cysylltiadau uniongyrchol rhwng staff ysgol gynradd a phobl y tu allan i'w haelwyd. 

Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe, nid oedd y tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 mewn ysgol yn cynyddu pan oedd plant o ddosbarthiadau gwahanol yn dod i gysylltiad â'i gilydd, er enghraifft yn ystod clybiau brecwast a gweithgareddau allgyrsiol, gan hybu cyfleoedd i blant gymdeithasu a chwarae gyda'i gilydd.

Ar ben hynny, daeth y tîm i'r casgliad nad oedd gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol yn lleihau'r tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 mewn ysgol.

Mae'r astudiaeth, a arweinir gan ymchwilwyr o'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ac mae wedi cael ei chyhoeddi ar ffurf rhagargraffiad gan MedRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ar faterion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (*rhagor o wybodaeth isod).

Gwnaeth yr astudiaeth gysylltu arolwg staff a oedd yn archwilio mesurau lliniaru gwahanol mewn ysgolion â data profion am Covid-19 mewn ysgolion drwy ddefnyddio banc data SAIL, sy'n cadw data sy'n seiliedig ar unigolion y gellir ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau.

Ers dechrau'r pandemig, mae mesurau i atal neu leihau lledaeniad Covid-19 – megis cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol a masgiau wyneb a rhoi terfyn ar glybiau brecwast a gweithgareddau allgyrsiol – wedi cael effaith aruthrol ar ddiwrnod arferol disgyblion cynradd.

Meddai Dr Emily Marchant: “Mae cadw ysgolion ar agor yn flaenoriaeth allweddol gan fod ein hymchwil flaenorol yn dangos bod cau ysgolion yn cynyddu anghydraddoldebau.

“Mae ein canfyddiadau'n dangos ei bod hi'n bwysig i staff ysgolion geisio lleihau nifer y cysylltiadau uniongyrchol mewn ysgolion er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r haint mewn ysgolion a sicrhau y gellir cadw ysgolion ar agor er mwyn diogelu iechyd, lles ac addysg plant.”

Dywedodd Dr Marchant fod yr ymchwil yn hanfodol wrth i blant a staff baratoi i ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth gan fod llawer o ganllawiau megis gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol wedi cael eu newid.

“Rydym yn ddiolchgar i'r ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil hon, sy'n ein galluogi i gydweithio a chael gafael ar y dystiolaeth orau i amddiffyn plant, teuluoedd ac ysgolion.”

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio'r dulliau lliniaru hyn a'u heffaith ar Covid-19, heintiau anadlol a lles staff rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020.

Gwnaeth yr ymchwilwyr ddadansoddi ymatebion 353 o bobl mewn 59 o ysgolion cynradd mewn 15 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae'r ymchwil ddiweddaraf hon yn rhan o brosiect ConCOV (Rheoli Covid-19 drwy oruchwylio'r boblogaeth ac ymyrryd yn well), sef galwad ymateb cyflym i Covid-19 a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), er mwyn helpu i ddeall heriau'r pandemig a mynd i'r afael â hwy.

Bydd ConCOV yn parhau am 12 mis ac yn cynnig sylfaen ar gyfer ymchwil i lywio strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn rheoli'r feirws, diogelu'r boblogaeth gyffredinol a helpu i roi terfyn ar gyfyngiadau symud y DU.

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan HDR UK (drwy gyllid y Cyngor Ymchwil Feddygol) ac ADR UK (drwy gyllid y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) ac mae'n ddibynnol ar fanc data SAIL ac isadeiledd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (drwy gyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru).

*Mae'r astudiaeth hon wedi'i rhagargraffu ac adroddiad rhagarweiniol ydyw o waith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid. Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai'r cyfryngau drafod y gwaith fel gwybodaeth sefydledig.

 

Rhannu'r stori