Gan bwyll – taith colomen adref yn datgelu ei phatrymau hedfan

Sut mae un golomen yn cyrraedd adref? A yw'n dewis y llwybr cyflymaf, hawsaf neu fwyaf diogel?

Gan fod adar yn treulio llawer o egni wrth hedfan, maent fel rheol yn addasu eu cyflymder a'u taflwybr er mwyn lleihau'r swm y maent yn ei ddefnyddio.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe bellach wedi bod yn defnyddio tagiau uwch-dechnoleg er mwyn astudio colomennod a darganfod a oes cysylltiad rhwng y penderfyniadau hollbwysig hyn ac osgoi ymosodiadau gan ysglyfaethwyr.

Pan wnaeth y tîm fonitro colomennod wrth iddynt hedfan yn ôl i'w haid yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck yn yr Almaen, gwelwyd bod yr adar weithiau'n hedfan mewn ffyrdd ynni-effeithlon megis dechrau esgyn cyn cyrraedd bryniau er mwyn lleihau ongl yr esgyniad. Ond gwelwyd hefyd fod rhai colomennod yn defnyddio egni drwy hedfan yn gyflym iawn.

Gwnaeth Baptiste Garde, o Labordy Abertawe ar gyfer Symudiad Anifeiliaid (SLAM) y Brifysgol, arwain y gwaith ymchwil, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan y cyfnodolyn Royal Society Open Science.

Meddai: “Gallai hyn awgrymu bod colomennod yn ceisio cyrraedd adref cyn gynted ag y bo modd, ond drwy gymharu'r amrywiad yn eu cyflymder a'u huchder hedfan â nodweddion awyren ysgafn iawn a oedd yn dilyn yr un llwybr, gwelsom fod uchder a chyflymder colomennod yn amrywio'n fawr mewn gwirionedd.

“Nid yw hedfan fel hyn yn effeithlon o ran amser nac egni, ond gallai fod yn fanteisiol mewn ffordd annisgwyl. Yn wir, os byddwn yn ystyried llwybr cwningen neu ïach ar ffo, gwelwn eu bod yn troi'n anrhagweladwy er mwyn drysu eu hysglyfaethwyr.

“Dyma ymddygiad cyfnewidiol. Mae'n bosib bod y colomennod yn defnyddio'r un strategaeth er mwyn cynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn osgoi ymosodiad.

“Disgrifiwyd hedfan cyfnewidiol yn achos llond llaw o adar yn unig hyd yn hyn, ond rydym o'r farn y gallai fod yn ymddygiad cymharol gyffredin a bod aderyn ar ei ben ei hun yn hedfan mewn ffordd fwy anrhagweladwy.”

Ychwanegodd yr Athro Emily Shepard, un o'r cyd-awduron: “Pan fydd adar mewn heidiau, mae eu niferoedd yn eu diogelu, ond ni all adar hedfan mewn heidiau bob amser; er enghraifft, pan fyddant yn bridio, byddant yn hedfan yn unigol i'r nyth ac oddi yno. Dyna'r adeg pan allai dull hedfan newidiol fod ar waith.”

Fine-scale changes in speed and altitude suggest protean movements in homing pigeon flights Baptiste Garde, Rory Wilson, Emmanouil Lempidakis, Luca Borger, Steven Portugal, Anders Hedenstrom, Giacomo Dell’Omo,  Michael Quetting, Martin Wikelsi and Emily Shepard

 

Rhannu'r stori