Llyfrau yn Archifau Richard Burton

Mae Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, lle cedwir deunydd o bwys lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, wedi cadw'r statws achrededig sy'n cydnabod ei safonau uchel, wrth ofalu am gofnodion gwerthfawr a sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.

Safon yr Achrediad Gwasanaethau Archifau yw safon y Deyrnas Unedig ar gyfer gwasanaethau archifau. Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe oedd y gwasanaeth archifau cyntaf mewn prifysgol yn y DU a'r gwasanaeth cyntaf yng Nghymru i gael ei achredu ar ôl i'r safon gael ei lansio yn 2013.

I fodloni'r safon, rhaid i archifau ddangos eu bod yn “ymatebol i'w holl randdeiliaid ac yr ymddiriedir ynddynt i reoli'u casgliadau unigryw”.

Cedwir casgliadau helaeth Archifau Richard Burton mewn cyfleusterau arbenigol, pwrpasol ac maent ar gael yn yr ystafell ddarllen gyhoeddus. Mae'r deunydd yn cynnwys:

  • Casgliad Maes Glo De Cymru a chofnodion undebau llafur, adnodd ymchwil sy'n bwysig yn rhyngwladol, gan ddarparu darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y maes glo tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn yr ugeinfed ganrif.
  • Casgliad Richard Burton, gan gynnwys dyddiaduron yr actor a anwyd ym Mhort Talbot o 1940 tan y 1980au, a ddenodd sylw'n fyd-eang pan gawsant eu cyhoeddi yn 2012.
  • Archifau lleol – cofnodion busnesau, enwadau crefyddol, rheilffordd enwog y Mwmbwls, a chasgliadau diwydianwyr blaenllaw o Abertawe, gan gynnwys y teulu Vivian, y teulu Dillwyn a'r teulu Morris.
  • Cofnodion diwydiannau metelegol lleol, gan gynnwys copr, tunplat a dur.
  • Dogfennau sy'n ymwneud â hanes y Brifysgol ers ei sefydlu ym 1920, a bywyd myfyrwyr yn Abertawe drwy'r oesau, megis lluniau, papurau newydd Undeb y Myfyrwyr a hanesion llafar.

Meddai Siân Williams, Pennaeth Casgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe: “Rwy'n falch bod Archifau Richard Burton wedi llwyddo i gadw ei statws achrededig ac rwy'n nodi sylwadau'r panel a wnaeth gydnabod ein cyflawniadau a'n hymrwymiad i wella a datblygu'n barhaus.  

“Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y casgliadau sydd gennym ar gael i fyfyrwyr, staff ac unrhyw un a allai elwa ohonynt. Mae'r dyfarniad yn golygu y gall pawb sy'n defnyddio ein casgliadau, neu sy'n rhoi deunyddiau i ni, fod yn siŵr ein bod yn eu rheoli yn ôl y safon uchaf. Llongyfarchiadau mawr i'm cydweithwyr yn yr archifau sydd wedi gweithio'n galed iawn i gadw'r achrediad. Maent wedi rhagori wrth weithio fel tîm ac ymaddasu, yn enwedig yn wyneb heriau pandemig presennol y coronafeirws.” 

Rhannu'r stori