Rhys Davies

Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ar gyfer ysgrifenwyr sy'n hanu o Gymru neu sy'n byw yn y wlad yn croesawu ceisiadau bellach.

Mae'r gystadleuaeth genedlaethol uchel ei bri yn cydnabod y straeon byrion gorau yn yr iaith Saesneg nad ydynt wedi'u cyhoeddi gan ysgrifenwyr sy'n 18 oed neu'n hŷn. Gallant fod mewn unrhyw arddull ac am unrhyw bwnc a hyd at 5,000 o eiriau.

Bydd enillydd y wobr gyntaf yn derbyn £1,000 a chaiff y cynnig buddugol ei gynnwys mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books.

Bydd 11 o ymgeiswyr llwyddiannus eraill yn derbyn £100 yr un a bydd eu gwaith hefyd yn rhan o'r antholeg.

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1991, naw o weithiau hyd yn hyn, a rheolir y gystadleuaeth ar gyfer 2022 gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Enillodd Naomi Paulus, awdures a anwyd yn Abertawe, y wobr y llynedd am ei stori Take a Bite.

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.

Beirniad gwadd y gystadleuaeth ar gyfer 2022 yw'r nofelydd a'r dramodydd o Gymru Rachel Trezise, sydd wedi ennill gwobrau niferus.

Enillodd ei nofel gyntaf, In and Out of the Goldfish Bowl, le ar restr Orange Futures yn 2002. Yn 2006, enillodd ei chasgliad ffuglen fer cyntaf, Fresh Apples, Wobr Dylan Thomas. Enillodd ei hail gasgliad ffuglen fer, Cosmic Latte, ddyfarniad y darllenwyr yng Ngwobr Edge Hill yn 2014. Aethpwyd â'i drama ddiweddaraf, Cotton Fingers, ar daith o gwmpas Cymru ac Iwerddon yn ddiweddar ac enillodd Wobr Lustrum drwy Summerhall. Rhyddhawyd ei nofel ddiweddaraf, Easy Meat, yn 2021.

Meddai Rachel: “Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle i fod yn feirniad Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022, gan fod Rhys yn un o'r ysgrifenwyr gorau i hanu, fel finnau, o Gwm Rhondda. Rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o 2021 yn ysgrifennu casgliad newydd o straeon byrion, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen straeon byrion pobl eraill y flwyddyn nesaf.”

Daw’r gystadleuaeth i ben ganol nos ar 22 Mawrth 2022. Cyhoeddir y rhestr fer ym mis Mehefin, a'r enillydd ym mis Medi.

Darllenwch yr holl amodau a thelerau

Rhannu'r stori