Tair casgen fetel y tu allan i fragdy ag amrywiaeth o diwbiau a phibellau ynghlwm wrthynt.

Mae biowyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n helpu microfragdy yng ngorllewin Cymru i leihau ei allyriadau CO2.

Byddant yn gweithio gyda Bluestone Brewing Co o Sir Benfro, gan ddefnyddio'r allyriadau CO2 sy'n deillio o'r broses fragu i feithrin microalgâu y gellir eu defnyddio wedyn fel bio-màs mewn amrywiaeth o gynhyrchion.  

Os byddant yn llwyddo, y gobaith yw y bydd yr ateb yn addas ar gyfer cwmnïau bach eraill sy'n cynhyrchu CO2.

Mae'r bragdy cyrfau crefft wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd am ddefnyddio dulliau cynhyrchu cynaliadwy fel rhan o'i ymdrech i fod yn gwmni carbon niwtral.

Gwnaeth Simon Turner o Bluestone ddisgrifio'r fenter gydweithredol hon i ddal y CO2 a gynhyrchir yn naturiol gan furum yn y broses fragu a'i ddefnyddio i greu bio-màs gwerthfawr fel prosiect mwyaf uchelgeisiol y cwmni hyd yn hyn.

Mae'r bragdy yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro yn cydweithio â thîm o fiowyddonwyr dan arweiniad yr Athro Carole Llewellyn o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Meddai: “Mae microalgâu, fel planhigion, yn defnyddio CO2 i dyfu ac fel ffynhonnell ynni. Yn ystod y prosiect cyffrous hwn, byddwn yn defnyddio allyriadau CO2 y bragdy er mwyn tyfu algâu.

“Caiff y bio-màs algaidd canlyniadol ei brosesu, a'i gyflwyno wedyn i Phytoquest Ltd, y trydydd aelod o'r tîm cydweithredu, sy'n arbenigo yn y broses o ddarganfod cynhyrchion naturiol a datblygu cynhwysion cynaliadwy at ddibenion y diwydiannau bwyd, a nwyddau fferyllol a chosmetig.”

Meddai Mr Turner: “Mae'n debygol bod gennym yr wybodaeth a'r gallu o ran peirianneg i greu ac addasu ein hoffer i ddal CO2, ond gwnaethom gysylltu â Phrifysgol Abertawe gan ei bod hi'n ymddangos bod storio, symud a phrosesu’r CO2 yn ddiogel yn achosi problemau anorchfygol.

“Roedd yn destun diddordeb i ni fod gan yr Athro Llewellyn a'i thîm y profiad a'r arbenigedd i'n llywio drwy'r broses, ynghyd â'r cyfleusterau ymchwil i ddarganfod y dulliau mwyaf effeithlon o ddefnyddio'r CO2.”

Ariennir y prosiect yn rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a rhaglen SMART Expertise Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio helpu mentrau cydweithredol rhwng diwydiant a sefydliadau academaidd.

Rhannu'r stori