John Hudson o'r Adran Gemeg wedi sicrhau un o dair ysgoloriaeth yn unig sy'n werth £5,000 yr un a roddir gan

John Hudson o'r Adran Gemeg wedi sicrhau un o dair ysgoloriaeth yn unig sy'n werth £5,000 yr un a roddir gan SCI

Dyfarnwyd ysgoloriaeth i gefnogi gwaith ymchwilydd cemeg o Brifysgol Abertawe ar foleciwlau o'r enw radicalau, a allai helpu i wella effeithlonrwydd a pherfformiad technolegau megis celloedd solar a batris.

Mae John Hudson o'r Adran Gemeg wedi sicrhau un o dair ysgoloriaeth yn unig sy'n werth £5,000 yr un a roddir gan SCI (Society of Chemical Industry), rhwydwaith byd-eang o arloeswyr a ffurfiwyd ym 1881 gan wyddonwyr, dyfeiswyr ac entrepreneuriaid blaenllaw.

Mae radicalau'n foleciwlau sy'n cynnwys electronau digymar, yn wahanol i'r rhan fwyaf o foleciwlau lle ceir electronau fesul pâr. Mae deall y rhyngweithiadau rhwng electronau digymar a pharau o electronau yn y systemau hyn wrth wraidd gwaith ymchwil John Hudson.

Mae'n defnyddio moleciwlau radical i ddylunio systemau newydd er mwyn dangos mecanweithiau ffisegol newydd ar gyfer trosglwyddo ynni a gwefrau mewn lled-ddargludyddion organig. Gallai'r mecanweithiau hyn fod yn allweddol wrth wella effeithlonrwydd, hyd oes a chost technolegau cynaliadwy megis celloedd solar, batris a goleuadau LED.

Mae ysgoloriaethau SCI yn uchel eu bri ac yn cael eu parchu gan y diwydiant. Sefydlwyd cronfa ysgolheigion SCI ym 1920 drwy roddion Rudolph Messel a John Gray, dau o gyn-lywyddion a sylfaenwyr SCI.

Mae SCI o blaid meithrin gwyddonwyr y dyfodol. Bob blwyddyn, mae SCI yn rhoi ysgoloriaethau a bwrsarïau i wyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys cyfleoedd i fynd i gynhadledd ryngwladol neu i gyflwyno mewn cynhadledd o'r fath.

Ar ben yr ysgoloriaeth, bydd John yn elwa o gyfleoedd cyhoeddi, mynediad at rwydwaith o safon i helpu i lansio ei yrfa, a chyfleoedd i gyflwyno ei waith a hyrwyddo ei broffil yn y gymuned wyddonol.

Meddai John Hudson, o Adran Gemeg Prifysgol Abertawe:

“Mae'n fraint wirioneddol cael fy nghydnabod gan SCI, a hoffwn ddiolch i'm goruchwylwyr, Dr Emrys Evans a'r Athro Paul Meredith, am eu cymorth a'u cyfarwyddyd parhaus. Gyda chymorth a gwaith mentora SCI, mae posibiliadau'r dyfodol yn destun cyffro i mi.”

Astudiwch gemeg ym Mhrifysgol Abertawe

Rhannu'r stori