Llun person yn chwarae cardiau.

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod cyn-aelodau o luoedd arfog y DU sy'n wynebu problemau gamblo yn ddrutach i'n cymdeithas o ran defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy, ymrafael â'r heddlu, colli oriau gwaith, budd-daliadau lles a dyledion trwm.

Mae'r gwaith ymchwil hwn dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi cael ei gyhoeddi yn BMJ Military Health: menter ar y cyd â Phrifysgol y Frenhines (Belfast), Prifysgol Anglia Ruskin, Prifysgol Bangor, GIG Cymru i Gyn-filwyr, Prifysgol Caerdydd, The Recovery Course a Phrifysgol Reykjavik.

Mae gamblo'n broblem gynyddol i iechyd y cyhoedd, ac mae data arolwg ar-lein sy’n deillio o The UK Armed Forces Veterans' Health and Gambling Study yn nodi bod y perygl i gyn-aelodau o'r lluoedd arfog fwy na deg gwaith yn fwy.

Mae rhyw 10% o bobl yn cael anawsterau ariannol ar ôl gadael lluoedd arfog y DU, ond nid yw asesiadau arferol o iechyd meddwl ar ôl gorffen cyfnod o wasanaeth yn cynnwys gamblo ar hyn o bryd.

Gyda chyllid gan yr elusen Forces in Mind Trust, gwnaeth yr astudiaeth newydd hon archwilio'r gwahaniaethau o ran y gofal iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir rhwng sampl o gyn-filwyr y DU a grŵp cymharu llawn sifiliaid o oedran a rhyw cyfatebol nad oeddent wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Cafwyd cyfanswm o 5,147 o ymatebion, ac roedd 2,185 o bobl, gan gynnwys 1,037 o gyn-aelodau o'r lluoedd arfog, yn rhan o'r dadansoddiad terfynol.

Atebodd ymatebwyr gyfres o gwestiynau am iechyd meddwl, ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd, a defnyddio gwasanaethau iechyd. Gofynnwyd iddynt hefyd am eu hethnigrwydd, eu statws priodasol, eu llwyddiant addysgol, eu horiau gwaith, eu dyledion, eu budd-daliadau lles, eu llety a maint eu haelwyd. Rhoddodd cyn-aelodau o'r lluoedd arfog fanylion ychwanegol am eu math o wasanaeth milwrol a'i hyd.

Awgrymodd canfyddiadau’r ymchwilwyr fod gamblo’n broblem i 43.1% o’r rhai a oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ond y ganran gyfatebol ymhlith pobl eraill oedd 6.5%.

Gwnaeth yr ymchwilwyr gymharu costau a chanlyniadau cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn ôl difrifoldeb eu problemau gamblo. Ar gyfer y tri mis blaenorol, cafodd y defnydd o adnoddau ei ddosbarthu yn ôl y math o wasanaeth, a defnyddiwyd costau fesul uned o ffynonellau a gyhoeddwyd yn y gorffennol.

Yna cafodd cyfanswm costau y defnydd o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ei gyfrif yn ogystal â’r costau cymdeithasol, wedi'u haddasu i ystyried ffactorau dylanwadol posib, megis ethnigrwydd, gwlad breswyl, cymwysterau a statws priodasol.

Yn gyffredinol, roedd cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd – gan gynnwys cyfnodau aros yn yr ysbyty, ymweliadau â meddygon teulu, a chysylltiadau â gweithwyr cymdeithasol – yn fwy na phobl eraill. Roeddent yn defnyddio gwasanaethau cymorth gamblo a thrin problemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn fwy.

Yn ogystal, roeddent yn ymrafael â'r heddlu'n amlach, yn colli rhagor o oriau gwaith, yn derbyn rhagor o fudd-daliadau ac yn mynd i ddyledion mwy na phobl nad oeddent yn gyn-aelodau o'r lluoedd arfog (£1,375 vs £806). 

Datgelodd y dadansoddiad fod costau cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol cyn-aelodau o'r lluoedd arfog oddeutu £600 yn uwch fesul unigolyn na chostau pobl eraill.

Er bod costau cyn-aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gamblo yn llai ar gyfartaledd, roeddent yn defnyddio gwasanaethau'n fwy wrth i ddifrifoldeb eu problemau gamblo gynyddu, gan arwain at gostau cymdeithasol uwch.

Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu bod y gwahaniaethau hyn yn debygol o ddeillio o effaith gwasanaeth milwrol, sy'n gysylltiedig ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol mwy. 

Dyma astudiaeth arsylwadol, felly ni all brofi beth sy'n achosi rhywbeth. Mae'r ymchwilwyr hefyd yn cydnabod bod y dadansoddiad economaidd yn gyfyngedig.

Casglwyd y data ar un adeg, ac mae costau gofal iechyd uwch cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn debygol o awgrymu bod gan y grŵp hwn broblemau iechyd corfforol a meddyliol mwy nad ydynt yn gysylltiedig â gamblo.

Serch hynny, meddai arweinydd y prosiect, yr Athro Simon Dymond o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe: “Mae ein canfyddiadau'n cefnogi dadl economaidd o blaid sgrinio cyn-aelodau o luoedd arfog y DU at ddiben nodi niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

“Mae costau sgrinio ar ôl cyfnod o wasanaeth ac ar ddiwedd gwasanaeth, a hynny'n rheolaidd, yn gymharol isel. Fodd bynnag, er y bydd costau'r rhai sydd ag anhwylderau iechyd meddwl yn cynyddu o bosib, bydd hynny'n cael eu cydbwyso drwy arbed costau o ran y defnydd o adnoddau gofal iechyd, yn ogystal â chysylltiadau â'r system cyfiawnder troseddol a dyledion sy'n cael eu cronni, yn y dyfodol.”

Rhannu'r stori