Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prosiect sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe a phartneriaid eraill i ddatblygu technolegau prosesu lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf yn cyllid ychwanegol gwerth £1.73m. Mae'r defnyddiau'n cynnwys cerbydau awtonomaidd, dyfeisiau newydd ar gyfer ynni glân,

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prosiect sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe a phartneriaid eraill i ddatblygu technolegau prosesu lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf yn cyllid ychwanegol gwerth £1.73m. Mae'r defnyddiau'n cynnwys cerbydau awtonomaidd, dyfeisiau newydd ar gyfer ynni glân, symudedd yn y dyfodol, deallusrwydd artiffisial, deunydd pacio gwell, a biosynwyryddion a synwyryddion gwisgadwy.

Mae ASSET (Technoleg Ysgythru Lled-ddargludyddion sy'n Benodol i Ddefnyddiau) yn brosiect a arweinir gan ddiwydiant i gydweithio â phartneriaid ledled de Cymru, gan gynnwys SPTS Technologies (cwmni sydd dan berchnogaeth KLA), IQE, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), Biovici, BioMEMS, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd ac Integrated Compound Semiconductors Ltd (Manceinion).

Ariennir ASSET yn rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, dan raglen SMARTExpertise Llywodraeth Cymru. Mae partneriaid diwydiannol ASSET yn darparu technolegau uwch ar gyfer bron pob ffôn clyfar yn y byd.

Drwy ddefnyddio lled-ddargludyddion cyfansawdd a deunyddiau'r genhedlaeth nesaf i ddatblygu amrywiaeth o dechnolegau prosesu lled-ddargludyddion newydd, bydd ASSET yn gwasanaethu defnyddiau newydd ym meysydd synwyryddion moduro, 6G, ffotoneg a gofal iechyd.

Bydd prosiect ASSET yn cael ei ehangu i gynnwys partneriaid diwydiannol ychwanegol o glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd de Cymru, megis: CSconnected, y cynhyrchwyr synwyryddion a rhwydweithiau clyfar UtterBerry, y cwmni ffotoneg Wave Photonics, a'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL), sef sefydliad mesureg cenedlaethol y DU.

Meddai'r Athro Owen Guy, Pennaeth Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinydd prosiect ASSET:

“Mae ehangu prosiect ASSET yn hwb amserol i ddiwydiant lled-ddargludyddion y DU. Mae datblygiadau cyffrous yn yr arfaeth ar y cyd â sawl partner diwydiannol rhanbarthol a bydd ein Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) – cyfleuster cyfoes newydd ar gyfer lled-ddargludyddion ym Mhrifysgol Abertawe – yn agor yn 2022.”

Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi:

“Rydym yn hynod falch o'r ecosystem lled-ddargludyddion cyfansawdd o'r radd flaenaf rydym wedi helpu i'w meithrin yma yng Nghymru. Dyma rwydwaith â photensial mawr sy'n defnyddio'r ymchwil ddiweddaraf a'r gallu i arloesi at ddibenion gweithgynhyrchu o safon ryngwladol yng Nghymru ar gyfer marchnadoedd technolegau byd-eang newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg. Mae technoleg y genhedlaeth nesaf yn llywio ein bywydau heddiw a bydd yn gwella ein profiadau yfory – o gerbydau trydan, i allu ffonau symudol i adnabod wynebau, a defnyddiau sy’n ymwneud â’r gofod.

“Mae'r sector yn hollbwysig i Gymru, gan gynnig cyflogaeth werthfawr a denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor. Yn ogystal, mae'n ategu gwaith datblygu mewn llawer o ddiwydiannau eraill, ac rydym yn credu y gall helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu drwy ysgogi economi gryfach a gwyrddach, a chyfrannu at yr her o ddatgarboneiddio er mwyn cyflawni'r targed sero-net.

“Rwy'n falch iawn o hanes Llywodraeth Cymru o gefnogi busnesau i arloesi a chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd, er mwyn masnachu â'r DU a gweddill y byd, gwella ein sylfaen sgiliau a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn gystadleuol yn y bedwaredd oes ddiwydiannol.”

Meddai Dr Matt Elwin, Cyfarwyddwr Gweithrediadau CISM / Dr Mike Jennings, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae ehangu ASSET yn cyd-fynd â'n menter newydd DER-IC (ysgogi'r chwyldro trydan drwy ganolfannau diwydiannu) i greu cadwyn gyflenwi sofran newydd ar gyfer y DU o ran cydrannau electroneg pŵer at ddibenion trydaneiddio trafnidiaeth. Bydd y cyllid hwn, yn ogystal â £4.82m drwy raglen DER-IC, yn ein helpu i gyflawni nodau cyffredin i gynyddu twf economaidd, datblygu cadwyni cyflenwi glân a chadarn o ran electroneg pŵer, peiriannau a gyriannau.”

Meddai Paul Rich, Is-lywydd Gweithredol Peirianneg a Thechnoleg Cynnyrch SPTS Technologies:

“Mae prosiect ASSET yn galluogi'r consortiwm i weithio gyda chadwyn gyflenwi sylweddol y sector cynhyrchu yn y rhanbarth er mwyn atgyfnerthu ein gallu a manteisio ar gyfleoedd newydd a chyffrous yn y farchnad.”

Meddai Wyn Meredith o'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd:

“Mae diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru'n cyflogi dros 1,400 o bobl fedrus iawn yn y rhanbarth ac mae'n barod i ehangu'n gyflym dros y pum mlynedd nesaf oherwydd twf 5G, deallusrwydd artiffisial a marchnadoedd poblogaidd eraill. Bydd ASSET yn cefnogi'r marchnadoedd hyn drwy ddatblygu amrywiaeth o brosesau ac arbenigedd uwch o ran lled-ddargludyddion er mwyn goresgyn heriau technegol a diwydiannol.”

Meddai Heba Bevan o UtterBerry:

“Mae UtterBerry yn falch o weithio gyda'r Athro Owen Guy a'i dîm ym Mhrifysgol Abertawe ar y prosiect, er mwyn gweddnewid y broses o weithgynhyrchu sglodion a bod yn un o'r canolfannau mwyaf datblygedig yn y DU. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at y newidiadau cadarnhaol ehangach y bydd tîm UtterBerry yn eu gwneud yn yr ardal, gan gynnwys creu swyddi, sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth mwy effeithlon, a gwella cysylltedd ac awtomatiaeth yn y sector ynni glân.”

Ceir rhagor o wybodaeth am ASSET a'r technolegau y mae'n eu datblygu drwy gysylltu â'r Athro Owen Guy yn ASSET@csconnected.

CS Connected - Cynhadledd CBI

Gweithgynhyrchu clyfar - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori