Gan ddefnyddio eitemau pob dydd, megis powdwr golchi, poteli diod a jygiau, gwnaeth disgyblion greu llysnafedd, saethu rocedi, mynd ar helfeydd trysorau a chodio wrth ddysgu am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg y gweithgareddau.

Gan ddefnyddio eitemau pob dydd, megis powdwr golchi, poteli diod a jygiau, gwnaeth disgyblion greu llysnafedd, saethu rocedi, mynd ar helfeydd trysorau a chodio wrth ddysgu am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg y gweithgareddau.

Fel rhan o Academi STEM Technocamps yr haf hwn, gwnaeth y prosiect allgymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru gynnal wythnos llawn gweithgareddau difyr yn Abertawe i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau rhithwir Haf o STEM y llynedd, trefnodd Technocamps nifer o weithgareddau ffisegol i blant ledled y wlad mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Oherwydd cau'r ysgolion a chyfyngiadau'r 18 mis diwethaf, mae'n ddigon posib bod plant, yn enwedig y rhai sy'n hanu o gefndiroedd difreintiedig, ar ei hôl hi o ran eu gwaith ysgol. Mynd i'r afael â'r broblem hon oedd nod academi ryngweithiol Technocamps y tu allan i oriau ysgol.

Drwy’r academi yn Abertawe, gwnaeth disgyblion Cyfnod Allweddol 3 fynd o gwmpas Campws Singleton Prifysgol Abertawe, gan ddefnyddio cliwiau cryptig i gyrraedd cyrchfan pob gweithgaredd cyn cymryd rhan mewn gemau, cwisiau a thasgau.

Gan ddefnyddio eitemau pob dydd, megis powdwr golchi, poteli diod a jygiau, gwnaeth disgyblion greu llysnafedd, saethu rocedi, mynd ar helfeydd trysorau a chodio wrth ddysgu am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg y gweithgareddau.

Cafodd yr holl weithgareddau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a'u cefnogi gan Fenter Iaith Abertawe.

Roedd adborth y disgyblion yn cynnwys:

  • “Fy hoff ddiwrnod erioed!”
  • “Roedd y gwaith yn ddifyr a'r swyddogion cyflwyno yn ddymunol iawn, felly roedd y diwrnod cyfan yn gyffrous ac yn ddiddorol. Acroedd yr holl arbrofion yn llawn hwyl.”
  • “Roedd yr holl weithgareddau'n ddifyr oherwydd eu bod hwy wedi fy ngorfodi i ddysgu am rywbeth newydd.”
  • “Heddiw oedd y diwrnod gorau ers amser HIR!”

Roedd adborth y rhieni'n cynnwys:

  • “Roedd fy meibion wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Rwyf mor ddiolchgar am bopeth a ddarperir ar eu cyfer ar ôl iddynt golli cynifer o bethau dros y 18 mis diwethaf.”
  • “Roeddwn am ddiolch yn fawr i chi, roedd y ddau fachgen wedi mwynhau eu hunain ac roedd y gweithgareddau'n destun brwdfrydedd a chyffro iddynt. Digwyddiad hynod drefnus a phleserus!”
  • “Roedd fy merch wedi mwynhau'r digwyddiad yn fawr ac mae hi am wneud mwy yn y dyfodol.”
  • “Diolch yn fawr! Cafodd ein merch ddiwrnod gwych gyda chi i gyd. Rwy'n gwybod ei bod hi'n heriol cynnig y fath raglenni ar hyn o bryd oherwydd Covid-19, felly diolch am gyflwyno'r digwyddiad hwn!”

Meddai Rheolwr Gweithrediadau Technocamps, Luke Clement:

“Ar ôl 18 mis hir o gyflwyno ein gweithgareddau ar ffurf rithwir, roedd yn wych croesawu'r staff a'r disgyblion i'r safle eto i fwynhau eu hunain yn cyfrannu at yr holl weithdai. Nawr, rydym yn edrych ymlaen yn fwy nag erioed at ddychwelyd i ysgolion yn y tymor newydd!”

Rhannu'r stori