De Ed Bennett

Mae uwch-beiriannydd meddalwedd ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi ennill y gymrodoriaeth gyntaf a gynigiwyd gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) ym maes Peirianneg Meddalwedd Ymchwil.

Mae Dr Ed Bennett o Academi Uwch Gyfrifiadureg Abertawe wedi llwyddo i sicrhau'r unig gymrodoriaeth a ddyfarnwyd eleni ar ôl cystadlu yn erbyn ceisiadau gan gymunedau ffiseg gronynnau, ffiseg niwclear, gwyddor y gofod ac ymchwil seryddiaeth ledled y DU. Bydd y gymrodoriaeth, sy'n werth £600k, yn helpu i ysgogi datblygiad meddalwedd ymchwil o'r radd flaenaf ac i hyrwyddo rôl hollbwysig meddalwedd wrth hwyluso ymchwil o safon.

Bydd y gymrodoriaeth yn helpu Dr Bennett wrth iddo fynd ati i wella'r feddalwedd y mae'r gymuned ymchwil ehangach yn ei defnyddio, cefnogi a hyfforddi ymchwilwyr eraill a chynnal ei ymchwil ei hun. Dyma rai o'i gyfrifoldebau allweddol yn y meysydd hyn:

  • Gweithio gydag ymchwilwyr yng nghymuned theori'r maes cwantwm dellt i geisio sicrhau dadansoddiadau data llwyr atgynyrchadwy – y syniad y dylai unrhyw ymchwilydd allu ailddefnyddio'r feddalwedd a ddefnyddiwyd i greu'r tablau a'r ffigurau mewn cyhoeddiad, a chael yr un allbwn â'r fersiwn a gyhoeddwyd. Bydd hyn yn cynnwys diffinio cyfres o safonau ac arferion cyffredin, a datblygu adnoddau i hwyluso dealltwriaeth ymchwilwyr eraill.
  • Cydweithio â phartneriaid ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd i wella perfformiad y feddalwedd y maent yn ei defnyddio i ddadansoddi achosion o donnau solar a disgyrchol.
  • Hyfforddi ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe ac mewn sefydliadau partner yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC (Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch-gyfrifiadura) ar dechnegau datblygu meddalwedd ac atgynyrchioldeb.
  • Datblygu llwybr gyrfa ar gyfer peirianwyr meddalwedd ymchwil y dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai Dr Bennett: “Rwyf wrth fy modd bod STFC wedi dewis y prosiect hwn i gael cyllid. Ers i mi glywed am y syniad o gael dadansoddiadau llwyr atgynyrchadwy, bu'r posibilrwydd o wireddu hyn ym maes cyfrifiaduredig yn amlwg i mi. Bydd y gwaith rwyf yn bwriadu ei arwain yn ystod y gymrodoriaeth hon dros y pum mlynedd nesaf yn hwyluso cam sylweddol tuag at greu meddalwedd ymchwil atgynyrchadwy ac ailddefnyddiadwy ym meysydd ffiseg solar, ffiseg disgyrchiant a ffiseg gronynnau yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach.”

Gan fod peirianneg meddalwedd ymchwil yn gymharol newydd, bydd y gymrodoriaeth yn ategu ei rôl fel arweinydd, yn ogystal â thynnu sylw at gyfraniad allweddol y maes at ymchwil o'r radd flaenaf.

Meddai Dr Bennett: “Yn ystod y degawd diwethaf, sylweddolwyd na all gwaith ymchwil ragori ar y feddalwedd y mae'n ei defnyddio a bod camgymeriadau yn y feddalwedd yn arwain at gamgymeriadau yng nghanlyniadau gwaith ymchwil. Rwyf am hyrwyddo rôl peirianwyr meddalwedd ymchwil fel y byddant yn cael yr un ystyriaeth â rolau academaidd ac ymchwil mwy traddodiadol.”

Meddai Cyfarwyddwr Academi Uwch Gyfrifiadureg Abertawe (SA2C), yr Athro Biagio Lucini: “Rydym ni yn SA2C yn hynod falch o groesawu cymrodoriaeth Dr Bennett. Mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod effeithiolrwydd ei weithgarwch wrth hyrwyddo rôl peirianwyr meddalwedd ymchwil yng Nghymru a'r tu hwnt. Heb os nac oni bai, bydd ei brosiect uchelgeisiol yn hyrwyddo meysydd ymchwil blaenllaw sy'n cael cymorth STFC ym mhrifysgolion Cymru.”

Rhannu'r stori