Graffeg Eisteddfod Amgen

Mae Prifysgol Abertawe yn noddi'r Babell Lên ac yn cyfrannu sawl sesiwn ar-lein fel rhan o raglen Eisteddfod AmGen 2021.

Ymhlith digwyddiadau’r wythnos, mae’r Brifysgol, dan arweiniad Academi Hywel Teifi, wedi trefnu sesiynau amrywiol ym mhebyll rhithwir y Cymdeithasau, y Lle Hanes, Theatr y Maes a’r Babell Lên. Bydd y cyfan i'w weld ar wefan yr Eisteddfod, ap AM, S4C, Radio Cymru a gwefan Cymru Fyw a bydd modd gwylio'r sesiynau ar gais ar YouTube. 

Manylion y sesiynau:

Dydd Iau, 5 Awst, 11.30am, Pabell y Cymdeithasau

Mwy na Hashtag - Llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 

Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, fydd yn arwain trafodaeth gyda rhai o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a Mared Edwards, Llywydd Urdd Gobaith Cymru, am eu syniadau a'u profiadau wrth lunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021, a rannwyd ar draws 59 o wledydd ac mewn 65 o ieithoedd, gan gyrraedd dros 400 miliwn o bobl drwy sylw’r cyfryngau byd-eang. Mae'r neges bwerus ar ran pobl ifanc Cymru yn galw am gydraddoldeb i ferched ar draws y byd a bydd y drafodaeth yn ystyried y darlun rhyngwladol a'r heriau sy'n wynebu merched cyn amlinellu'r camau nesaf y bydd yr Urdd, Prifysgol Abertawe ac eraill yn eu cymryd i gyfrannu at gyrraedd y nod.

Nos Iau, 5 Awst, 6pm, Y Babell Lên 

Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru) gyda Dr Simon Brooks a'r Athro Daniel Williams 

Hanes Cymry yw'r gyfrol gyntaf i drafod hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg. Hi hefyd yw'r gyfrol gyntaf i drafod y pwnc o safbwynt y traddodiad deallusol Cymraeg. Yn y sesiwn hon, bydd yr awdur, Simon Brooks, yn sgwrsio gyda Daniel Williams. 

Dydd Gwener, 6 Awst, 11.30am, Theatr y Maes

Gwlad yr Asyn a The Tempestcyfweliad rhwng y dramodydd Dr Wyn Mason a'r Athro Tudur Hallam, dan nawdd Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe

Bydd Wyn Mason, awdur y ddrama newydd, Gwlad yr Asyn, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr, yn trafod sut y mae’r ddrama’n ymateb i The Tempest gan Shakespeare. Fe’i holir gan Tudur Hallam o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle’r enillodd Wyn radd PhD yn ddiweddar ym maes y ddrama ac ysgrifennu creadigol. Noddir y sesiwn gan Gymdeithas Drama Gymraeg Abertawe.

Dydd Sadwrn, 7 Awst, 3.00pm, Y Lle Hanes

Ystyr Bywyd Richard Burton

Arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ yn yr Amgueddfa Genedlaethol yw un o uchafbwyntiau diwylliannol 2021. Mae Prifysgol Abertawe wedi cydweithio â’r Amgueddfa i greu’r arddangosfa, gan wneud defnydd helaeth o’r papurau a’r dyddiaduron yn Archif Richard Burton. Yn y sesiwn hon bydd rhai o academyddion y Brifysgol – Gwenno Ffrancon, Gethin Matthews a Daniel Williams – yn cael cwmni un arall o enwogion Cwm Afan, Cleif Harpwood, er mwyn archwilio ystyr bywyd Burton. Yn anterth ei enwogrwydd, roedd Burton dan y chwyddwydr drwy’r amser, a’r wasg yn llawn straeon amdano. Bydd y drafodaeth hon yn adeiladu ar ymdrech yr arddangosfa i ddatgelu’r dyn y tu ôl i’r penawdau, a’r Cymro y tu ôl i sglein Hollywood. 

Meddai’r Athro Elwen Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe â gofal am y Gymraeg: “Er mai yn rhithiol unwaith eto y bydd ein Prifwyl eleni, edrychwn ymlaen yn fawr fel sefydliad at gael cyfrannu at y rhaglen fywiog o ddarlithoedd, paneli trafod a sgyrsiau a gaiff eu cynnal ar draws y Maes. Mae’r Eisteddfod yn gyfle blynyddol arbennig i ni lwyfannu gwaith ac arbenigedd llenorion, ysgolheigion a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe.

"Eleni rydym ni’n falch iawn o weld rhai o’n myfyrwyr yn mynnu llwyfan i rannu eu neges hwythau ar gyfer gwell byd i bawb trwy drafod eu profiadau yn llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2021. Rydyn ni’n falch iawn o’n partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn falch o fedru cefnogi un o sefydliadau diwylliannol pennaf Cymru yn ei ymdrech i lwyfannu a dathlu cyfoeth y diwylliant Cymraeg.”

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe am eu cefnogaeth yn noddi’r Babell Lên yn yr Eisteddfod AmGen eleni.  Mae hon yn berthynas bwysig i ni, ac ry’n ni’n croesawu’r ffaith fod y Brifysgol hefyd yn cynnal nifer o sesiynau ar draws ein Maes rhithiol, gan roi blas i bawb o’u gwaith a’u harbenigedd.

“Mae ennyn cefnogaeth partner blaenllaw fel Prifysgol Abertawe i’r Eisteddfod eleni yn arwydd o lwyddiant prosiect Eisteddfod AmGen dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae’r cyfle i gydweithio ar blatfformau digidol yn brofiad newydd i ni ac rwy’n sicr y bydd y berthynas yr un mor llwyddiannus ar-lein ag yw hi ar y Maes fel rheol. Diolch am y gefnogaeth.”

Rhannu'r stori