Dau ddisgybl yn gweithio mewn digwyddiad Technocamps, cyn Covid-19: bydd gweithlyfrau newydd yn galluogi disgyblion heb fynediad at y rhyngrwyd i astudio pynciau STEM hyd yn oed os bydd ysgolion ar gau.

Mae Technocamps, prosiect allgymorth Prifysgol Abertawe, yn cefnogi plant ledled Cymru sydd heb fynediad at y rhyngrwyd drwy gynhyrchu 3,000 o weithlyfrau ac adnoddau llawn gweithgareddau i'w galluogi i weithio gartref ar bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) os bydd eu hysgol ar gau oherwydd Covid-19.

Mae Technocamps wedi bod yn gweithio yn ei hybiau ym mhrifysgolion Cymru i ddarparu adnoddau, gweithgareddau a gweithdai digidol i blant ysgol yng Nghymru ers dechrau'r pandemig. Yn dilyn adborth nad yw'n hawdd i bob plentyn gael gafael ar yr adnoddau hyn, anfonodd Technocamps 3,000 o becynnau gweithgareddau dwyieithog at blant ysgol uwchradd ledled Cymru i'w defnyddio yn eu hamser eu hunain, heb lawer o gymorth gan rieni nac athrawon.

Pan fydd ysgolion ar gau, mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd plant, yn enwedig y rhai sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig, yn colli tir o ran eu gwaith ysgol. Mae hyn wedi ysgogi Technocamps, rhaglen allgymorth sy'n cyflwyno gweithdai sy'n seiliedig ar bynciau STEM i ysgolion uwchradd yng Nghymru, i gynhyrchu adnoddau ffisegol i helpu disgyblion i barhau i ddysgu. Yn bennaf, mae'r rhaglen ar gyfer disgyblion sy'n llai tebygol o fod yn ddawnus mewn pynciau STEM a'r rhai sy'n llai brwd dros astudio'r pynciau hyn.

Mae'r pecyn yn cynnwys tri gweithlyfr ar themâu Cryptograffeg, Meddwl Cyfrifiannol, a Geometreg gyda Phapur. Gellir gwneud pob gweithgaredd gartref drwy ddefnyddio adnoddau sylfaenol yn unig, megis papur a beiros, ac nid oes angen cael mynediad at y rhyngrwyd. Mae'r gweithgareddau ar gyfer plant o bob gallu ac mae'r pecyn yn cynnwys hyd at bedair awr o waith.

Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: “Rydym bob amser yn awyddus i gyrraedd plant difreintiedig a sicrhau mwy o degwch yng Nghymru. Mae'r gweithlyfrau wedi bod yn fenter wych i gynnwys pob disgybl ac i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth sy'n deillio o ddiffyg adnoddau.”

Meddai Victoria Price, athrawes yn Ysgol Greenhill: “Dyma adnodd gwych i'n disgyblion Cyfnod Allweddol 3 nad yw'r rhyngrwyd ar gael iddynt yn hawdd o reidrwydd. Ar adeg pan fyddwn ni fel athrawon mor brysur yn cynllunio ac yn ymaddasu, mae cael cymorth ychwanegol gyda'n gwersi wedi bod yn amhrisiadwy.”

Mae Technocamps yn rhaglen Cymru gyfan a chanddi hybiau ym mhob prifysgol yng Nghymru. Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnig gweithdai rhithwir am ddim yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi'u teilwra i anghenion athrawon er mwyn helpu i gyflwyno Cyfrifiadureg a'r cwricwlwm gwyddoniaeth ehangach. Yn ogystal, cynigir hyfforddiant am ddim a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus i wella sgiliau athrawon a mynd i'r afael â diffygion ym maes addysg cyfrifiadura.

Fel rheol, gall cyfranogwyr gymryd rhan yn yr ysgol neu mewn clwb cymunedol neu drwy ymweld ag ystafell ddosbarth allgymorth bwrpasol Technocamps ar Gampws Singleton y Brifysgol. Nod y gweithdai ymarferol hyn yw dod â phynciau STEM yn fyw, ynghyd â rhoi cyfle i ddisgyblion gwrdd â thîm Technocamps a chael blas ar fywyd ar gampws yn y Brifysgol.

Rhannu'r stori