Aderyn bach

Mae rhywogaethau o adar ledled y byd yn dioddef ac yn marw o fath o falaria ac, er nad yw'r straeniau'n heintus i bobl, maent yn lledaenu'n gyflym drwy fannau heintio problemus byd-eang.

Mae tîm rhyngwladol – gan gynnwys Dr Konstans Wells, sy'n arwain y grŵp ymchwil bioamrywiaeth ac ecoleg iechyd ym Mhrifysgol Abertawe – wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil er mwyn deall ym mha fannau y mae'r clefyd wedi bod yn lledaenu'n gyflym ac yn eang, a'r rhesymau dros hynny.

“Mae malaria adar bellach yn effeithio ar ryw 13 neu 14 y cant – ar gyfartaledd – o holl adar gwyllt y byd,” meddai Dr Wells.

“Grŵp o barasitiaid gwaed – o'r enw parasitiaid haemosporidian – sy'n ei achosi ac, yn debyg iawn i falaria sy'n effeithio ar bobl, mae'n cael ei ledaenu drwy bryfed sy'n bwydo ar waed, fel mosgitos.

“Ni all niweidio pobl ond mae'n hysbys ei fod yn effeithio'n sylweddol ar boblogaethau adar.

“Er enghraifft, pan gyflwynwyd malaria adar yn Hawäi ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, roedd yn un o brif achosion tranc oddeutu traean o'r 55 o rywogaethau hysbys o ddringiedyddion y mêl (honeycreepers) yn Hawäi.

“Rydym wedi gweld bod mannau problemus lle mae'r parasitiaid hyn yn cael eu lledaenu ym mhedwar ban byd.”

Meddai un o'r cyd-awduron, Dr Alan Fecchio o Brifysgol Ffederal Mato Grosso ym Mrasil: “Caiff adar eu heintio â'r parasitiaid hyn amlaf yn rhanbarth Arabaidd y Sahara, ond ceir cyfraddau heintio annisgwyl o uchel mewn mannau problemus lleol yng Ngogledd America, Ewrop ac Awstralia, gan ddibynnu ar amrywiolion parasitiaid gwahanol.

“Yn Ewrop, mae rhai o'r parasitiaid gwaed hyn yn achosi cyfraddau heintio uchel yn ein hadar cân, gan gynnwys adar duon cyffredin (Turdus merula) a thitwod penddu (Parus ater).”

Gwnaeth y tîm ymchwil gasglu a dadansoddi'r set ddata fwyaf erioed, yn ôl pob tebyg, o achosion o heintio adar gwyllt â pharasitiaid malaria adar, gan archwilio mwy na 53,000 o adar gwyllt.

Cyfunwyd data am heintiau â data amgylcheddol wedi'i synhwyro o bell, megis amgylchiadau hinsawdd neu goedwig, a gwybodaeth am hanes bywyd adar, megis patrymau mudo a maint corfforol, mewn modelau cyfrifiadurol er mwyn nodi pa ffactorau a oedd yn disgrifio orau'r risg o heintio â pharasitiaid malaria adar.

Dywedodd un o'r cyd-awduron, Dr Nicholas Clark, o Brifysgol Queensland yn Awstralia, fod rhagweld pa amgylchiadau sy'n hwyluso'r broses o heintio adar gwyllt â malaria adar yn hanfodol er mwyn deall peryglon clefydau heintus.

“Gan fod pob rhywogaeth o aderyn yn unigryw o safbwynt ecolegol ac yn dod i gysylltiad â phryfed sy'n lledaenu clefydau i raddau gwahanol wrth fridio a mudo, mae rhywogaethau gwahanol o adar yn wynebu risgiau gwahanol o gael eu heintio.

“Mae'r amgylchiadau sy'n hwyluso heintiau mewn ardaloedd gwahanol ym mhedwar ban byd yn dibynnu'n llwyr ar gyd-destun.

“Er enghraifft, mae adar sy'n mudo'n bell yn fwy tebygol o gael eu heintio mewn rhai cyfandiroedd ond yn llai tebygol o gael eu heintio mewn cyfandiroedd eraill.” 

Daeth Dr Wells i'r casgliad canlynol:

“Nid oes dim ateb hawdd gan fod cynifer o ffactorau ar waith, ond byddwn yn parhau i ymchwilio er mwyn darganfod y ffordd orau o amddiffyn rhywogaethau adar y byd rhag y clefyd marwol hwn, a meithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y mae parasitiaid niweidiol yn gorlifo o un rhywogaeth i rywogaeth arall.”

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn Global Ecology and Biogeography.

Rhannu'r stori