Llun o Caitlin McCall a logo Gymdeithas Peirianneg y Menywod.

Mae Caitlin McCall, sy'n fyfyrwraig PhD mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi'i henwi'n un o'r 50 o Fenywod Gorau mewn Peirianneg  (WE50) gan Gymdeithas Peirianneg y Menywod(WES).

Cynhelir gwobrau blynyddol WE50 ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg ac maent yn dathlu'r menywod mwyaf dawnus, mwyaf dewr a gorau mewn peirianneg.

Y llynedd amlygwyd pwysigrwydd peirianwyr a'u rôl wrth ein cadw ni'n ddiogel, drwy ddarparu atebion trwy gydol yr argyfwng iechyd byd-eang digynsail, COVID-19.

Wedi'i hysbrydoli gan y diffyg offer diogelwch personol (PPE) a oedd ar gael, mae Caitlin wedi defnyddio ei sgiliau arbenigol mewn gweithgynhyrchu i wrthsefyll y diffyg hwn trwy gydol y pandemig.

Ar y cyd â chydweithwyr o'r Coleg Peirianneg, gwnaeth Caitlin ddylunio, gweithgynhyrchu a dosbarthu fisorau wyneb hanfodol.

Mewn 3 mis yn unig, rhoddwyd marc CE i’r prototeip fisor a chafodd ei gymeradwyo gan y GIG, gan sicrhau diogelwch cannoedd o weithwyr allweddol yn ne Cymru.

Meddai Caitlin: "Rwy'n teimlo mor freintiedig fy mod wedi cael fy newis gan y beirniaid i fod yn y 50 gorau wrth ochr yr holl fenywod rhagorol hyn.

"Mae Peirianneg yn chwarae rôl enfawr mewn cymdeithas ac mae'r gwobrau hyn yn bwysig wrth gydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud.

"Mae Peirianneg yn caniatáu i bobl fod yn greadigol wrth ddatrys problemau cymhleth. Gall yr atebion rydym yn eu cynnig fod yn arloesol iawn ac mae hyn yn agwedd hynod foddhaol ar fod yn beiriannydd siartredig. Mae ym mhopeth o'n cwmpas, felly does dim terfyn ar ein gallu i ddefnyddio'r broses greadigol hon ac mae'n gyffrous dros ben."

Mae Caitlin yn rhan o’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A), sy’n darparu hyfforddiant ymchwil a arweinir gan ddiwydiant i fyfyrwyr ôl-raddedig ar Gampws y Bae. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Rhannu'r stori