Abertawe ar flaen y gad wrth i ganolfan ymchwil iechyd meddwl newydd gael ei lansio

Mae gan Brifysgol Abertawe rôl flaenllaw mewn consortiwm newydd ledled y DU i ddod â data iechyd meddwl allweddol ynghyd.

DATAMIND – Data Hub for Mental Health Informatics Research and Development – yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o ganolfannau rhagoriaeth a lansiwyd gan Health Data Research UK.

Ariennir y ganolfan gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'i nod yw gwneud y defnydd mwyaf o asedau data iechyd meddwl cyfoethog y DU er mwyn darparu ymchwil gydlynus, gan wella bywydau yn y pen draw.

Yr Athro Ann John, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yw cyd-gyfarwyddwr a phrif ymchwilydd y ganolfan.

Meddai: “Rydym am wella iechyd meddwl pobl drwy newid y ffordd y mae'r GIG, elusennau, byd diwydiant ac ymchwilwyr yn defnyddio ac yn rhannu gwybodaeth sydd ar gael eisoes.

“O hyn ymlaen, bydd ymchwilwyr yn gallu dod o hyd i ddata iechyd meddwl a'i ddefnyddio er lles cleifion a'r cyhoedd, gan wella gofal. Byddwn yn gweithio gyda chleifion a phobl â phrofiad personol o faterion iechyd meddwl i ddeall pa rai y maent yn ymddiried ynddynt i ddefnyddio eu data, ac i ddatblygu ffyrdd o gydweithio ar iechyd meddwl.”

 Bydd y ganolfan yn gweithio gyda'r rhai sy'n llunio polisïau a phobl ym myd diwydiant er mwyn deall pa fath o ddata y mae ei angen arnynt, gan ddod ag ymchwilwyr ynghyd o nifer o brifysgolion. 

Ychwanegodd yr Athro John: “Bydd ein gwaith yn ei gwneud hi'n haws i bawb sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ddefnyddio data mewn ffyrdd diogel a blaengar sy'n diogelu preifatrwydd.” 

Dyma'r ail ganolfan ymchwil sy'n gweithio gyda banc data SAIL. Mae’r banc data eisoes yn un o bartneriaid BREATHE – Health Data Research Hub for Respiratory Health – sy'n ceisio gwella bywydau miliynau o bobl sy'n dioddef o afiechydon anadlol. 

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon Meddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae'r canolfannau eisoes yn asedau allweddol wrth i ni fynd ati i ddeall llawer o anhwylderau a'u trin a'u rheoli'n effeithiol. 

“Mae DATAMIND yn ychwanegiad amserol at y rhain a bydd yn siŵr o fod yn ddylanwadol wrth helpu pobl a gwella eu gofal. Rydym yn hynod falch bod Abertawe mor flaenllaw mewn datblygiad mor bwysig.” 

Bydd y ganolfan yn gweithio gyda'r byd academaidd, y GIG, elusennau trydydd sector, y rhai sy'n llunio polisïau cyrff cyhoeddus, a byd diwydiant, gan gynnwys Adolescent Mental Health Data Platform, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Psychiatry Consortium, McPin, Kooth, Catalogue of Mental Health Measures, rhaglen Cyflymu, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, MQ: Transforming Mental Health, a'r Cyngor Ymchwil Feddygol, ynghyd ag uwch-swyddogion gwyddonol ac arweinwyr polisïau ym mhob un o'r pedair gwlad.

Rhannu'r stori