Disgyblion yn ennill gwobrau am ddychmygu dyfodol y Brifysgol

Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i annog pobl ifanc sy'n frwd dros ddysgu wedi cael ei amlygu unwaith eto yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni.

Mae'r digwyddiad, yr un mwyaf o'i fath yng Nghymru, bellach yn bleser blynyddol i ddisgyblion ac eleni gallant unwaith eto fwynhau sesiynau wyneb yn wyneb yn ogystal ag ymuno yn yr hwyl ar-lein.

Yn ogystal â'r ŵyl wyddoniaeth, mae'r Brifysgol hefyd wedi bod yn helpu i annog disgyblion i ddangos eu doniau a'u dychymyg drwy gystadleuaeth Prifysgol y Dyfodol.

Gofynnwyd i ddisgyblion ddychmygu sut olwg fyddai ar y Brifysgol ymhen 100 mlynedd at ddibenion y gystadleuaeth, a gafodd ei hysbrydoli gan ganmlwyddiant y Brifysgol yn 2020 a'i chymeradwyo gan yr awdur llyfrau plant tra phoblogaidd David Walliams.

Roedd tri chategori gwahanol ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol 1, 2 a 3 ac roedd heriau gwahanol yn wynebu pob grŵp oedran.

Roedd llun lliwgar Jack Mabbett, enillydd adran Cyfnod Allweddol 1, o Brifysgol y Dyfodol yn cynnwys robotiaid yn addysgu myfyrwyr.

Meddai: “Rwyf mor falch bod pawb yn hoffi fy nyluniad! Roedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn bleser oherwydd fy mod i'n hoff iawn o ddylunio dyfeisiau newydd a bod yn greadigol.”

Gwnaeth Amelia Johnson, enillydd adran Cyfnod Allweddol 2, ddychmygu Prifysgol Abertawe yn cael ei hailadeiladu o dan y dŵr yn ei stori fer, sy'n cael ei hadrodd gan David Walliams mewn animeiddiad sy'n dod â hi'n fyw.

Dyma'r ail gysylltiad rhwng Amelia, sy'n gobeithio astudio meddygaeth yn y pen draw, a'r awdur poblogaidd.

Meddai: “Gwnes i gymryd rhan oherwydd fy mod yn dwlu ar ysgrifennu straeon. Gwnes i gyrraedd rhestr fer cystadleuaeth ysgrifennu 500 o eiriau BBC Radio 2 i blant yn 2019, a chael cyfle i fynd i Gastell Windsor, lle gwnes i gwrdd â ... David Walliams!”

Enillodd Yusef Butt gategori Cyfnod Allweddol 3 drwy greu cyflwyniad wedi'i animeiddio o'i weledigaeth o'r ffyrdd y byddai Prifysgol Abertawe'n ymaddasu ac yn newid. Meddai: “Rwy'n frwd dros ffuglen wyddonol, roboteg, peirianneg a dyfodol y byd, felly roeddwn yn credu y byddai'r gystadleuaeth yn ddifyr.

“Gwnes i ddysgu llawer o sgiliau newydd megis modelu 3D a defnyddio fy nychymyg i raddau newydd. Fy nod bellach yw mynd i brifysgol er mwyn cael cyfleoedd newydd i sicrhau dyfodol mwy disglair.”

 

Rhannu'r stori