Raven Leilani a chlawr ei llyfr, Luster

Mae Raven Leilani o Efrog Newydd wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei chyfrol gyntaf ‘feiddgar’, Luster, nofel afaelgar, bryfoclyd a phoenus o ddoniol am y profiad o fod yn fenyw ddu a ddaeth i oed ers dechrau'r mileniwm yn America.

‘Digyfaddawd – a disglair’ oedd disgrifiad Zadie Smith; ‘nodedig’ oedd barn Candice Carty-Williams; a gwnaeth Barack Obama ddewis Luster fel un o'i hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Luster wedi sefydlu Leilani, sy'n 30 oed, fel llais newydd cadarn mewn ffuglen lenyddol.

Wrth dderbyn y wobr, meddai Raven Leilani: “Yn gynnar iawn yn fy mywyd, roedd gwaith Dylan Thomas yn destun cysur mawr ac ysbrydoliaeth i mi, felly dyma anrhydedd a chadarnhad anhygoel. Des i ar draws ei waith am y tro cyntaf pan oeddwn tua 12 oed. Roeddwn newydd ddechrau ysgrifennu ac rwy'n cofio mynd ag un o'i gasgliadau adref o'r llyfrgell a cheisio efelychu ei rythm. Mae dyddiaduron llawn ymdrechion o'r fath yn fy meddiant o hyd, ac rwyf am ddiolch i'r beirniaid, y darllenwyr, fy nheulu a'm ffrindiau, a'm cydweithwyr gwych yn Picador a Trident, am eu cefnogaeth. Mae'n werth y byd i mi.” 

Cipiodd Leilani y wobr uchel ei bri, sy'n werth £20,000, am Luster (Picador/ Farrar, Straus & Giroux) mewn seremoni rithwir a gyflwynwyd gan yr actor a'r sgriptiwr arobryn Celyn Jones ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.

Meddai Cadeirydd y Beirniaid, Namita Gokhale: "Mae Luster yn nofel glodwiw a beiddgar sy'n disgrifio poen, ansicrwydd, sefyllfa fregus a gwirionedd caled bod yn fenyw ddu ifanc yn America. Mae llygad treiddgar Edie, yr adroddwr, am bob arwydd o ragfarn hiliol yn drylwyr ac yn feistrolgar. Dyma lyfr pwysig, anghyfforddus sydd yn ei dro yn ddoniol ac yn ddig, ac sydd bob amser yn hoelio'r sylw. Mae Raven Leilani yn llais newydd rhyfeddol o wreiddiol. Rydym yn falch bod beirniaid Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe wedi penderfynu'n unfrydol mai'r nofel gyntaf afaelgar hon yw eu dewis ar gyfer gwobr 2021. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at waith nesaf yr awdures dalentog a digyfaddawd hon."

Mae'r wobr yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, ac fe'i dyfernir i'r awdur 39 oed neu'n iau sy'n ysgrifennu'r gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg.

Y canlynol oedd y llyfrau eraill ar y rhestr fer ar gyfer gwobr 2021: Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat (Picador), Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate), The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi (Faber), Pew gan Catherine Lacey (Granta), a My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate).

Mae Raven Leilani yn ymuno â rhestr ddisglair o lenorion sydd wedi ennill y wobr glodfawr hon, gan gynnwys Bryan Washington, Guy Gunaratne, Kayo Chingonyi, Fiona McFarlane a Max Porter.

Rhannu'r stori