Y Brifysgol yn rhannu ei harbenigedd fel rhan o brosiect ymchwil trawsatlantig

Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â phrosiect rhyngwladol arloesol sy'n archwilio hanes a gwleidyddiaeth dad-ddiwydiannu.

Drwy ei chanolfan newydd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant treftadaeth, sef CHART, mae'r Brifysgol bellach yn un o bartneriaid sefydliadol ffurfiol DePOT (Deindustrialization and the Politics of our Time), ac mae Dr Hilary Orange, uwch-ddarlithydd Treftadaeth Ddiwydiannol a chyd-gyfarwyddwr CHART, wedi cael ei hychwanegu at y prosiect fel cyd-ymchwilydd llawn.

Mae DePOT, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau yng Nghanada, yn archwilio gwreiddiau hanesyddol dad-ddiwydiannu, a phrofiadau uniongyrchol ohono, o safbwynt trawswladol a chymharol.

Mae'r prosiect yn cynnwys 33 o sefydliadau partner a 24 o gyd-ymgeiswyr o chwe gwlad, sef yr Eidal, yr Almaen, Ffrainc, Canada, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'r partneriaid hyn yn cynnwys canolfannau ymchwil blaenllaw ym meysydd astudiaethau llafur, hanes llafar, hanes rhywedd, treftadaeth ddiwydiannol a mudiadau cymdeithasol, yn ogystal ag amgueddfeydd, undebau llafur, archifau llafur, coleg brodorol a gwasg prifysgol.

Bydd y prosiect yn arwain at erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau mewn llyfrau, gweithdy trawswladol, sefydliad haf i fyfyrwyr, allbynnau creadigol drwy raglen artistiaid preswyl, ac erthyglau barn mewn papurau newydd. Uchafbwynt y prosiect fydd cyfrol gan gyd-awduron ar thema dad-ddiwydiannu a gwleidyddiaeth ein hoes, yn ogystal ag arddangosfa ar yr un pryd ym mhob un o'r chwe gwlad gyda llyfr a fydd yn cyd-fynd â hi.

Caiff y cwbl ei strwythuro drwy chwe menter ymchwil a bydd Dr Orange yn cyfrannu at ddwy thema, sef The Politics of Industrial Heritage a Working-Class Expression, gan roi pwyslais pwysig ar Gymru, gan gynnwys adeiladu ar ymchwil i ddiwydiant dur Cymru, ar y cyd â'r Athro Louise Miskell, un o'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd aelodaeth o'r consortiwm yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer staff a myfyrwyr Abertawe ac mae cyfran helaeth o gyllideb DePOT yn cael ei neilltuo i fentora a chefnogi ysgolheigion dad-ddiwydiannu'r genhedlaeth nesaf. 

Bydd myfyrwyr yn cael mynychu sefydliadau haf DePOT neu fod yn aelodau cyswllt o'r prosiect. Ar ran staff Abertawe, mae gan y prosiect lwybr cydymaith ymchwil i alluogi ymchwilwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau cysylltiedig i ddatblygu eu hymchwil mewn cydweithrediad â rhwydwaith DePOT. 

Cynhelir holl weithgareddau DePOT dan faner CHART, sydd eisoes yn meithrin cymuned â diddordeb mewn ymchwil ac arferion treftadaeth yng Nghymru. 

Meddai'r Athro David Turner o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, cyd-gyfarwyddwr CHART: “Mae bod yn rhan o DePOT yn cysylltu gwaith ymchwil ac arloesi Prifysgol Abertawe â rhwydwaith byd-eang sy'n defnyddio hanes i fynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y mae cymdeithasau ôl-ddiwydiannol yn eu hwynebu.

“Mae gan Abertawe a'r cylch dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac mae ein hymchwilwyr wedi bod wrth wraidd prosiectau sy'n defnyddio'r hanes hwn i lywio'r gwaith o adfywio hen safleoedd diwydiannol yn y ddinas. Mae CHART yn edrych ymlaen at weithio gyda DePOT i ddatblygu prosiectau ymchwil sy'n cael effaith gymdeithasol wirioneddol.” 

Bydd DePOT yn adeiladu ar ddegawd o waith ymchwil ac ymgysylltu ar dreftadaeth ddiwydiannol Cymru, gan gynnwys gwaith copr yr Hafod-Morfa, casgliad y maes glo, prosiectau cydweithredol mawr ar anableddau yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a gwaith cyfredol ar gymunedau dur Cymru. 

Mae Dr Orange, sydd wedi ymuno â'r gyfadran yn ddiweddar, yn ysgolhaig rhyngwladol ym meysydd treftadaeth ddiwydiannol a dad-ddiwydiannu yn y DU, Japan a'r Almaen. Mae hi wedi gweithio yn y gorffennol gyda'r Athro Steven High, prif ymchwilydd DePOT, gan olygu The Routledge Handbook of Memory and Place ar y cyd, ac o 2016 i 2018 roedd yn westai i'r Athro Stefan Berger – un o gyd-ymgeiswyr eraill DePOT – yn y Sefydliad Mudiadau Cymdeithasol wrth iddi ddilyn Cymrodoriaeth Ymchwil Alexander von Humboldt.

Meddai Dr Orange: “Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect trawswladol mawr hwn, sy'n uchel ei fri, ac o wreiddio astudiaethau dad-ddiwydiannu yn gadarn ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at gynnwys cydweithwyr a chefnogi myfyrwyr Abertawe wrth achub ar gyfleoedd rhyngwladol.” 

Bydd Dr Orange yn cadeirio trafodaeth bwrdd crwn ar thema curadu ac archifo dad-ddiwydiannu ddydd Gwener, 19 Tachwedd. Mae croeso i bawb gofrestru

Rhannu'r stori