Ymchwilwyr yn lansio arolwg i archwilio'r defnydd o fasgiau wyneb yn ystod pandemig Covid-19

Mae tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar aelodau o'r cyhoedd i gwblhau arolwg am eu profiadau o wisgo masgiau wyneb yn ystod pandemig Covid-19. 

Bydd canfyddiadau'r arolwg, a ariennir gan raglen Sêr Cymru i fynd i'r afael â Covid-19, yn helpu ymchwilwyr i roi cyngor sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Lywodraeth Cymru am y defnydd o fasgiau wyneb, a bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw anghydraddoldebau posib sy'n gysylltiedig â'r defnydd o orchuddion wyneb yng Nghymru.

Bydd yr arolwg 15-20 munud yn archwilio pedwar peth yn fras:

  • Ffactorau cymdeithasol sy'n effeithio ar orchuddio'r wyneb, e.e. ethnigrwydd ac oedran, ymysg eraill.
  • Mynediad at fasgiau wyneb ac ymddygiad a barn pobl ynghylch gwisgo gorchuddion wyneb.
  • Y ffactorau sy'n rhan o'r broses o wneud penderfyniadau wrth greu neu brynu masgiau wyneb.
  • Dealltwriaeth pobl a ffynonellau'r wybodaeth sydd ganddynt ynghylch gorchuddion wyneb a'r canllawiau cysylltiedig.

Bydd y rhai sy'n cwblhau'r arolwg yn cael cyfle i ennill un o ddeg tocyn gwerth £50 ar gyfer siopau ar y stryd fawr.

Meddai Dr Louise Cleobury o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu'r amrywiaeth eang o anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl yn y DU ac ym mhedwar ban byd. Mae'r rhain yn cynnwys ethnigrwydd, incwm, mynediad at ofal iechyd a chanlyniadau gofal iechyd, anableddau, rhywedd a mynediad at dechnoleg.

"Mae cymoedd de Cymru ymysg y mannau yr effeithiwyd arnynt fwyaf, a bu mwy o farwolaethau o ganlyniad i Covid-19 fesul pen o'r boblogaeth yn Rhondda Cynon Taf nag unrhyw le arall yn y DU ers mis Mawrth 2020. Mae Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful hefyd ymysg y chwe sir a chanddynt y cyfraddau marwolaethau uchaf yn sgil coronafeirws yn y DU. Y rhesymau tybiedig am hyn yw'r degawdau o amddifadedd economaidd-gymdeithasol a gafwyd yn yr ardaloedd hyn, a'r cysylltiad â chyflogaeth pobl, eu hincwm a'u mynediad at gludiant, ymysg pethau eraill.

“Mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd cynyddol hyn ac ymchwilio i'r ffactorau unigol sy'n gysylltiedig â gwisgo gorchuddion wyneb, yn ogystal â pha orchuddion wyneb y mae pobl yn eu gwisgo a'u ffynhonnell, yn hollbwysig ac mae'n bosib y caiff effaith anferth yn ystod y pandemig, yn enwedig lle rydym wedi gweld yr effaith fwyaf ymysg y cymunedau hynny lle ceir mwy o anghydraddoldebau ac amddifadedd.”

Meddai'r Athro Richard Johnston o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe:  “Ar ben yr astudiaeth o'r anghydraddoldebau posib sy'n gysylltiedig â gorchuddion wyneb, rydym hefyd yn defnyddio cyfarpar microsgopeg uwch y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg i ddisgrifio'r gorchuddion wyneb a'r masgiau y mae cyhoedd y DU yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Rydym wedi dechrau cymharu dyluniad a microadeiledd nifer o fasgiau sydd ar gael yn helaeth, sydd wedi tynnu sylw at amrywioldeb anferth, megis nifer ac ansawdd yr haenau, a thyllau mawr mewn rhai mathau o ddeunydd.

"Drwy'r holiadur uchod, rydym hefyd yn gofyn i bobl roi gwybod i ni am y masgiau y maent yn eu defnyddio fel y gallwn ddisgrifio'r rhai hynny hefyd. Mae gwybod pa fath o fasg sy'n effeithiol yn heriol pan fyddwch yn prynu mewn siop neu ar-lein, a bydd y gwaith ymchwil hwn yn ein galluogi i ddarparu cyfarwyddyd sylfaenol hygyrch fel y bydd gan y cyhoedd yr wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus wrth brynu masgiau.”

Cwblhewch yr arolwg.

 

Rhannu'r stori