Ymchwil gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe sy'n ymwneud â Covid-19

Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o ymchwil sy’n ymwneud â Covid-19 yn ogystal â'r pwyslais pwysig ar frechlynnau. 

Mae Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn gartref i'r Ganolfan Bioamrywiaeth Cytocrom P450 a BEACON, canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n werth miliynau o bunnoedd. Mae'r ddwy ganolfan ar flaen y gad o ran defnyddio gwybodaeth am facteria a ffyngau i fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau i iechyd, gan integreiddio dulliau gweithredu mewn nodau ymchwil gwyrdd.

Meddai'r Athro Steven Kelly: “Rydym wedi bod wrthi'n adolygu ein gwaith ymchwil yn sgil y pandemig. Gan arbenigo mewn astudiaethau microbaidd, roeddem yn falch iawn o weld bod llawer o'n papurau'n berthnasol i'r ymchwil sy'n ymwneud â Covid-19 a meysydd iechyd eraill.

“Rydym yn ffodus y gallwn elwa o weithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol allanol i ddatblygu ein gwaith ymchwil. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith ymchwil yn helpu i wella prosesau ar gyfer y dyfodol.”

Datgelodd y gwaith ymchwil y canlynol:

 

Rhannu'r stori