Dyfarnwyd ysgoloriaeth MBA £20,000 i fyfyriwr rhagorol Sashauna Perkins

Mae myfyriwr o Jamaica wedi curo 40 o fyfyrwyr gobeithiol eraill i ennill ysgoloriaeth lawn gwerth £20,000 i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth ar gyfer Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA), i wobrwyo unigolyn sy'n dangos y potensial mwyaf i ddod yn arweinydd blaengar ac arloesol y dyfodol.

Er bod yr holl ymgeiswyr yn rhagorol, roedd Sashauna Perkins, o St Andrew, Jamaica ben ac ysgwyddau uwchlaw'r lleill gyda'i chais unigryw a chreadigol a oedd yn amlinellu'n glir sut y byddai'n defnyddio ei gradd MBA i fod o fudd i'r gymuned y cafodd ei magu ynddi.

Mae Sashauna'n gobeithio bod yn brif swyddog gweithredol yn y sector cyfathrebu ac mae'n bendant y bydd yr MBA yn ei chefnogi i gyrraedd ei nodau.

Meddai Sashauna: “Rwyf mor falch o dderbyn yr ysgoloriaeth lawn hon i astudio'r MBA ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y Brifysgol yn unigryw i mi fel sefydliad sy'n ymroddedig i ddatblygu arweinwyr cynaliadwy ac sy'n canolbwyntio ar bobl; roedd ffocws clir ar werth dynol busnes, yn ogystal â'i werth i ddeiliaid cyfranddaliadau."

"Cyn cyflwyno cais, roeddwn wedi gweithio'n galed i gefnogi busnesau yn adran busnesau rhyngwladol Digicel Group. Roeddwn yn rheoli negeseua, gan ei addasu i'r byd digidol ac annog trawsnewid digidol i sicrhau hirhoedledd busnesau. Rwy'n gobeithio ehangu ar hyn ar ôl fy astudiaethau ac yn bwriadu ymuno ag uwch-reolaeth yn syth ar ôl graddio, lle byddaf yn cyfrannu at ddiwygio diwydiant a phrofi twf pellach.”

Meddai Cyfarwyddwr y Rhaglen MBA Dr Paul Davies: “Mae Sashauna'n dangos addewid mawr fel arweinydd busnes ac mae eisoes wedi dangos ei chymhelliant a'i chariad at lwyddiant cynaliadwy busnesau. Bydd hyn yn ei rhoi hi mewn sefyllfa dda i ddatblygu ymhellach ei phrosiect Higgler Hiatus (H2), sy'n ceisio llywio busnesau bach wrth iddynt bontio i addasu i dueddiadau digidol perthnasol.

“Nid yw dechrau ar yr MBA yn ystod pandemig byd-eang wedi bod yn hawdd ac roedd gwneud hynny'n rhithwir, mwy na 4,000 o filltiroedd i ffwrdd wedi golygu bod yn rhaid gwneud newidiadau hanfodol i gyflwyno'r rhaglen. Serch hynny, mae myfyrwyr wedi croesawu'r ffordd hon o ddysgu ac mae cael y cyfle i ymgysylltu ag unigolion o rannau gwahanol y byd gyda'u profiadau a'u huchelgeisiau busnes unigol, wedi'i wneud yn brofiad dysgu ffyniannus a chyffrous.

“Rwy'n ffyddiog y bydd Sashauna yn rhoi ei gwybodaeth a'i sgiliau newydd ar waith pan fydd yn ennill ei chymhwyster ac edrychaf ymlaen at glywed am ei llwyddiannau yn y dyfodol.”

Gall yr MBA gael ei chwblhau mewn blwyddyn (amser-llawn) neu dros ddwy flynedd (rhan-amser), ac mae'n addas ar gyfer pobl ag o leiaf dair blynedd o brofiad rheoli neu fusnes. Mae ei hyblygrwydd yn golygu y gall unigolion astudio law yn llaw â'u hymrwymiadau gwaith a theulu.

Athroniaeth rhaglen yr MBA yw ceisio cau'r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth. Mae'n herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, gan fyfyrio ar ddamcaniaeth ac ymarferion rheoli i nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang.

Darganfyddwch fwy am yr MBA ym Mhrifysgol Abertawe neu ebost studysom@abertawe.ac.uk

 

Rhannu'r stori