Prifysgol Abertawe'n cefnogi'r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ar 23 Mawrth 2021

Caiff Tŷ Fulton ym Mhrifysgol Abertawe ei oleuo'n felyn ddydd Mawrth 23 Mawrth fel rhan o ddiwrnod cenedlaethol i gofio'r rhai sydd wedi marw yn ystod pandemig Covid-19 ac i gefnogi'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.

Mae Marie Curie yn cynnal y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod flwyddyn ar ôl dechrau'r cyfnod clo cyntaf yn y DU, a chaiff tirnodau ac adeiladau ledled y DU eu goleuo'n felyn er cof am y rhai sydd wedi marw, ac fel symbol o obaith ar gyfer dyfodol mwy disglair.

Mae Marie Curie yn amcangyfrif bod mwy na thair miliwn o bobl wedi cael profedigaeth ers dechrau'r pandemig, ond mae llawer ohonynt heb gael cyfle priodol i ffarwelio ag anwyliaid nac i alaru. Bydd y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yn rhoi cyfle i'r genedl a chymunedau gofio, galaru a dathlu pawb sydd wedi marw yn ystod y cyfnod hwn a dangos cefnogaeth i'n teuluoedd, ein ffrindiau a'n cydweithwyr sy'n galaru.

Anogir aelodau'r cyhoedd i gadw'n ddistaw am funud am ganol dydd, ddydd Mawrth 23 Mawrth ac i gysylltu â rhywun y maent yn ei adnabod sydd wedi cael profedigaeth. 

Anogir pobl hefyd i sefyll ar garreg y drws am 8pm gyda ffonau, canhwyllau a thortshis fel arwydd o gofio, neu i roi golau yn eu ffenestr.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Wrth i ni gyrraedd pen-blwydd dechrau'r cyfnod clo cyntaf yn y DU, mae'n deilwng ein bod yn myfyrio ar effaith sylweddol y pandemig hwn ar fywydau pawb. Yn drist iawn, mae'r Brifysgol wedi colli aelodau o staff a ffrindiau, ac rydym yn gwybod bod colli anwyliaid, cydweithwyr, cymdogion a ffrindiau wedi cael effaith ar lawer o bobl, yn ein cymuned a'r tu hwnt iddi.

“Mae'n fraint cael goleuo Tŷ Fulton heddiw, wrth i ni ymuno â phobl ledled Cymru i ddangos ein cydymdeimlad a'n parch, ac i gynnig ein cefnogaeth i'r rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r pandemig. Wrth i ni gofio'r rhai sydd wedi marw, gwaetha'r modd, rydym hefyd yn talu teyrnged i ymdrechion anhygoel ein staff, ein myfyrwyr a'n cymuned ehangach ar ôl i ni wynebu heriau'r flwyddyn ddiwethaf gyda'n gilydd.

“Er y bydd ein gwytnwch yn parhau i gael ei brofi dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, mae'n hanfodol ein bod yn dal i gefnogi ein gilydd wrth i ni edrych ymlaen, gyda gobaith a thosturi, at ddyfodol mwy disglair.”

Mae cymorth profedigaeth ar gael i holl fyfyrwyr ac aelodau o staff Prifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori