CEFNOGI MYFYWYR MEWN PROFEDIGAETH

Mae'r grŵp hwn yn cwrdd i gefnogi myfyrwyr sy'n mynd drwy brofedigaeth o unrhyw fath. Efallai eich bod wedi colli ffrind neu aelod o'r teulu yn ddiweddar, neu beth amser yn ôl hyd yn oed. Beth bynnag yw amgylchiadau eich colled, mae’n bosib y gall y grŵp eich helpu.

Mae cyfarfodydd y grŵp yn para awr ac maent yn gyfle i rannu ag eraill a allai fod â theimladau a phrofiadau tebyg i'ch rhai chi. Rydym yn cydnabod bod galaru'n wahanol i bawb, ond mae'n dda gwybod nad ydych ar eich pen eich hun.

Caiff y grŵp ei hwyluso gan aelod o Dîm Ffydd@BywydCampws ac un o'r cwnselwyr Lles.

Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ymdopi â'ch galar ar eich pen eich hun. Mae help ar gael i chi.

Pryd mae'r grŵp yn cwrdd?

Bydd y grŵp yn rhedeg pob dydd Mercher am 3pm-4pm yn y Goleudy, Campws Singleton. Os nad yw'r amser hyn yn gweithio i chi, neu os oes angen help arnoch i canfod y Goleudy, danfonwch ebost i faith.campuslife@swansea.ac.uk

I cadw lle, ewch i'n wefan trwy ddilyn y dolen YMA