Amdanom Ni

Mae Ffydd@BywydCampws yma ar gyfer myfyrwyr, staff ac aelodau'r gymuned. Mae croeso i bawb gael cymorth a phrofiad sy’n cyfoethogi eu bywydau.

Mae Tîm Ffydd Prifysgol Abertawe yn cynnig gwasanaeth agored a chynhwysol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach. Ein cenhadaeth yw cynnig gofod diogel i bawb; archwilio ffydd mewn amgylchedd agored a chynhwysol; meithrin cydweithrediad rhwng crefyddau; cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol ac anfeirniadol i unrhyw un sy’n ei geisio a darparu digwyddiadau cymdeithasol wedi’u targedu i feithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn.

Os hoffech siarad â rhywun yn Ffydd@BywydCampws, mae croeso i chi e-bostio staff gweinyddol y tîm a fydd yn gallu eich cyfeirio at yr unigolyn priodol.