Mae'r cyfnod Croeso yn un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn academaidd, wrth i fyfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd gyrraedd y campws cyn dechrau'r tymor. Mae angen i staff a myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol roi eu hamser i gyfarch myfyrwyr, ateb cwestiynau syml ond pwysig, rhoi argraff gyntaf wych o Brifysgol Abertawe ac, yn bwysicaf oll, i greu ymdeimlad o gymuned.

Eleni, bydd y gweithgarwch croeso'n para o ddydd Mercher 21 Medi i ddydd Sul 25 Medi a bydd y gweithgarwch ar ei hanterth ddydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 Medi. Gallwch hefyd wirfoddoli i helpu myfyrwyr i symud i mewn i lety oddi ar y campws rhwng 9 ac 11 Medi.

SUT GALLAF WIRFODDOLI?

Llenwch y ffurflen i gofrestru eich diddordeb.

Datganiad Cenhadaeth Cyrraedd a Chroeso

Cynllunio proses gyrraedd sy'n ddiogel, yn broffesiynol ac yn arloesol sy'n helpu myfyrwyr i integreiddio yng nghymuned Prifysgol Abertawe a gwneud iddynt deimlo'n gartrefol. Cyflwynir y gweithgareddau ar y safle pan fo'n ddiogel  gwneud hynny, yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth. Trefnir gweithgarwch cyfathrebu yn brydlon ac yn gyson, a bydd yr holl randdeiliaid yn deall yr hyn rydym yn disgwyl ganddynt.

PA ROLAU SYDD AR GAEL?