Cymorth Ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal neu sydd wedi’u dieithrio o’u teuluoedd.

Mae Cyfranogiad@BywydCampws yn darparu cyngor, cyfleoedd a gwybodaeth bwrpasol i ymadawyr gofal cymwys a myfyrwyr cymwys sydd wedi'u dieithrio o'u rhieni. Gallwn ni eich helpu chi i gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys llety, cymorth academaidd a chyllid gan eich galluogi chi i wneud penderfyniadau cadarnhaol a gwybodus am eich astudiaethau a'ch profiad yn y brifysgol.

Mae’r wybodaeth isod yn amlinellu’r pecyn cymorth ar gyfer Ymadawyr Gofal a myfyrwyr sydd wedi’u dieithrio cymwys. Os ydych chi’n meddu ar brofiad o ofal, wedi bod o dan ofal gwarcheidwad, os yw’ch rhieni wedi marw neu os ydych chi’n breswylydd Foyer, cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau ac i weld pa gymorth sydd ar gael i chi. 

Cyfrinachedd

Ymdrinnir â holl wybodaeth gan Cyfranogiad@BywydCampws yn gwbl gyfrinachol. Ar yr achlysuron y bydd angen i ni ymgynghori â staff o adran arall neu o sefydliad allanol gwneir hyn ar ôl derbyn caniatâd gennych chi yn gyntaf.